Cymeradwyo adeilad £66 miliwn newydd i Ysgol Uwchradd Caergybi
Mae cynlluniau ar gyfer codi adeilad newydd gwerth £66 miliwn ar gyfer Ysgol Uwchradd Caergybi wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Fe fydd yr adeilad modern newydd ar gyfer dysgwyr 11 i 18 oed yn cael ei leoli ger Canolfan Hamdden Caergybi, yn amodol ar brynu’r tir.
Dywedodd Aaron C Evans, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Sir Ynys Môn, bod yr adeilad yn “fuddsoddiad sylweddol mewn addysg yng Nghaergybi a’r dalgylch.”
“Rydym yn grediniol y bydd y prosiect hwn yn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor addysg uwchradd yn lleol ac yn darparu mannau dysgu arbenigol o’r safon uchaf,” meddai.
“Bydd adeilad a chyfleusterau newydd yn cyfrannu at sicrhau’r profiadau a’r canlyniadau gorau posib ar gyfer ein pobl ifanc, yn ogystal â chefnogi amcanion ‘strategaeth moderneiddio cymunedau dysgu a datblygu’r Gymraeg’ y cyngor.”
Y bwriad yw cau’r cyfleusterau ysgol bresennol yn Nheras Alderley yn ystod haf 2030 ac agor adeilad ysgol uwchradd newydd yn hydref 2030.
Ychwanegodd Prif Weithredwr y Cyngor sir, Dylan J. Williams: “Mae derbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru heb unrhyw addasiadau yn garreg filltir bwysig yn ein cynlluniau i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel i bobl ifanc yng Nghaergybi.
“Byddai amgylchedd dysgu modern newydd yn Ysgol Uwchradd Caergybi yn sicrhau fod y cyfleusterau a’r cyfleoedd gorau ar gael i ddisgyblion.”
“Mae’r cynigion hyn hefyd yn cefnogi un o amcanion strategol allweddol y cyngor – addysg – trwy gynorthwyo i sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer heddiw ac ymhell i’r dyfodol.”