Cymru i wynebu Rwmania mewn gêm gyfeillgar

Cymru v Gog Iwerddon

Bydd Cymru yn wynebu Rwmania yn Bucharest ddydd Sadwrn 6 Mehefin, wrth i'r ddau dîm wynebu ei gilydd am y tro cyntaf ers 1993.

Bryd hynny, profodd Cymru dorcalon yng Nghaerdydd wrth i Paul Bodin daro'r bar gyda chic o'r smotyn, ac fethodd tîm Terry Yorath â chyrraedd Cwpan y Byd 1994, gyda'r sgôr terfynol yn 1-2. 

Sgoriodd Gheorghe Hagi a Florin Raducioiu goliau Rwmania, gan sicrhau lle iddyn nhw yng Nghwpan y Byd.    

33 mlynedd yn ddiweddarach, bydd y gêm gyfeillgar rhwng Rwmania a Chymru yn cael ei chynnal yn Stadiwm Steaua yn Bucharest sydd â 31,000 o seddi. 

Rai dyddiau ynghynt bydd Cymru yn herio Ghana mewn gêm gyfeillgar arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 2 Mehefin. 

Daw'r cyhoeddiad am y gêm rhwng Rwmania a Chymru wedi marwolaeth prif hyfforddwr Rwmania Mircea Lucescu yr wythnos diwetha.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn anfon eu cydymdeimlad at deulu Mircea Lucescu, ei ffrindiau a phawb yn Ffederasiwn Bêl-droed Rwmania.

Yr un fath â Chymru, methodd Rwmania â chyrraedd Cwpan y Byd 2026 yr haf hwn, ar ôl colli yn y gemau ail gyfle yn erbyn Twrci.  

Wedi'r gemau fis Mehefin, bydd Cymru yn canolbwyntio ar eu hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn yr Hydref, pan fyddan nhw yn wynebu Denmarc, Norwy a Phortiwgal.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.