Yr actor actor James Van Der Beek wedi marw'n 48 oed
Mae actorion cyfres ddrama boblogaidd Dawson’s Creek wedi rhoi teyrnged i'r actor James Van Der Beek, sydd wedi marw yn 48 oed ar ôl dioddef o ganser y coluddyn.
Cyhoeddodd ei deulu ei farwolaeth ddydd Mercher, gan ddweud ei fod wedi wynebu ei ddyddiau olaf “gyda dewrder, ffydd ac yn osgeiddig”.
Daeth Mr Van Der Beek i enwogrwydd wrth actio rhan Dawson Leery yn y ddrama boblogaidd i bobl ifanc yn eu harddegau, gafodd ei darlledu dros chwe chyfres o 1998 tan 2003.
Roedd cast y gyfres wedi codi arian at elusen ganser ychydig fidoedd yn ôl.
Dywedodd un o sêr Dawson's Creek, Busy Philipps, mewn teyrnged i James Van Der Beek ar Instagram: “Mae fy nghalon yn gwaedu dros bob un ohonom heddiw
“Pob person oedd yn adnabod James ac yn ei garu, unrhyw un oedd yn caru ei waith neu a gafodd y pleser o'i gyfarfod, ei holl gyfeillion annwyl a'i gymuned o'i amgylch wrth iddo frwydro yn erbyn y salwch hwn, yn enwedig ei rieni a'i frawd a'i chwaer.
“Ond mae fy nghalon wedi torri dros ei wraig anhygoel Kimberly a'u chwe phlentyn hudolus yn fwy na neb.
“Roedd James Van Der Beek yn un mewn biliwn a bydd colled ar ei ôl am byth.”
Dywedodd Kerr Smith, a fu’n serennu ochr yn ochr â Van Der Beek am bum tymor wrth actio'r cymeriad Jack McPhee:
“Rwyf mor ddiolchgar am allu galw James yn frawd. Byddaf yn gweld ei eisiau yn fawr. Gorffwys yn Hawdd.”
Dywedodd datganiad teuluol gafodd ei gyhoeddi gan ei wraig Kimberly: “Bu farw ein hannwyl James David Van Der Beek yn dawel y bore yma.
“Cyfarfu â’i ddyddiau olaf gyda dewrder, ffydd a gras. Mae llawer i’w rannu ynglŷn â’i ddymuniadau, ei gariad at ddynoliaeth a sancteiddrwydd amser.
“Daw’r dyddiau hynny. Am y tro gofynnwn am breifatrwydd wrth i ni alaru ar ein gŵr, tad, mab, brawd a ffrind annwyl.”
