48 awr i gwmnïau technoleg ddileu lluniau annerbyniol
Byddai’n rhaid i lwyfannau technoleg ddileu delweddau annerbyniol sydd wedi’u rhannu heb ganiatâd o fewn 48 awr os yw cyfraith arfaethedig newydd yn dod i rym yn y DU.
Dywedodd y llywodraeth y dylid trin delweddau annerbyniol o’r fath gyda’r un difrifoldeb â deunydd sy’n darlunio cam-drin plant yn rhywiol a chynnwys terfysgol.
Gallai cwmnïau sy’n methu â chydymffurfio wynebu dirwyon o hyd at 10% o’u trosiant byd-eang, neu wynebu cael eu blocio arlein yn y DU.
Dywedodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, wrth BBC Breakfast bod y cam newydd yn rhai o “frwydr barhaus” gyda darparwyr llwyfannau, a hynny ar ran dioddefwyr.
Dywedodd Janaya Walker, cyfarwyddwr dros dro’r glymblaid End Violence Against Women, fod y cam yn “gosod y cyfrifoldeb ar gwmnïau technoleg i weithredu”.
Mae’r cynigion yn cael eu cyflwyno drwy welliant i’r Bil Troseddu a Phlismona (Crime and Policing Bill), sy’n mynd trwy Dŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd.
Dim ond unwaith y byddai angen i ddioddefwyr adrodd am ddelwedd, yn hytrach na chysylltu â gwahanol lwyfannau ar wahân.
Byddai’n rhaid i gwmnïau technoleg hefyd weithredu i atal yr un delweddau rhag cael eu huwchlwytho eto ar ôl iddyn nhw gael eu tynnu i lawr y tro cyntaf.
Byddai’r cynnig hefyd yn rhoi canllawiau i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd er mwyn iddyn nhw allu blocio mynediad at wefannau sy’n cynnal cynnwys anghyfreithlon.
Y nod yw targedu gwefannau sydd ar hyn o bryd y tu allan i gwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Fe wnaeth adroddiad seneddol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025 ddweud bod cynnydd o 20.9% wedi bod mewn adroddiadau am ddelweddau annerbyniol yn cael eu rhannu heb ganiatad yn 2024.
