Cwm Nedd: Dedfrydu pump o ddynion ifanc am losgi adeilad hanesyddol yn fwriadol

Llosgi Nedd

Mae pump o ddynion ifanc wedi cael eu dedfrydu ar ôl llosgi un o adeiladau mwyaf hanesyddol Cwm Nedd yn fwriadol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Dŷ Rheola, adeilad rhestredig Gradd II, am tua 16:50 ar ddydd Mawrth, 18 Awst.

Roedd hyn yn ystod cyfnod o dywydd poeth eithriadol dros yr haf. 

Cafodd Kyle Renzoni, 18 oed, o Langatwg, Castell-nedd Port Talbot; Ellis Harding, 19 oed, o Gendros, Abertawe; Yian Foster, 18 oed, o Resolfen, Castell-nedd Port Talbot; ac Evan Traynor, 18 oed, o Waunarlwydd, Abertawe, eu dal ar gamera teledu cylch cyfyng yn cyrraedd giatiau Ystad Rheola mewn car. 

Yna fe wnaethant wisgo mygydau mewn ymgais i guddio eu hwynebau.

Roedd Renzoni yn gwisgo camera i recordio'r ymosodiad. 

Image
Llosgi Nedd
Clocwedd: Renzoni, Traynor, Foster & Harding

Fideo o'r digwyddiad

Ffilmiodd y grŵp yn profi'r hylif llosgi mewn adeilad allanol ar y safle, cyn defnyddio bar haearn i fynd i mewn i'r prif adeilad. 

Wedyn, fe wnaeth y criw danio'r tân cyn ffoi o'r safle.

Cafodd y pedwar dyn, ynghyd â pherson 17 oed nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran, eu cyhuddo o losgi bwriadol.

Mae'r pedwar dyn sydd wedi eu henwi wedi cael eu dedfrydu i dair blynedd mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc. 

Mae'r bachgen 17 oed wedi cael ei gyfeirio at banel troseddwyr ifanc Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Abertawe ar gyfer cytundeb sy'n para 12 mis.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Victoria Bayly: “Roedd hwn yn ymosodiad difeddwl a diofal a ddinistriodd adeilad hanesyddol lleol, ac a ddigwyddodd ar adeg pan oedd y gwasanaethau tân ac achub eisoes o dan bwysau mawr. 

"Fel y nododd y Barnwr yn ei sylwadau wrth grynhoi’r achos, roedd hon yn 'weithred annirnadwy o ddrygioni annisgrifiadwy'. 

"Rwy’n falch o weld eu bod wedi cael eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.