Corff baban ar lan y Fenai: Sefydlu llinell ffôn uniongyrchol ar gyfer y fam

Afon Menai

Mae llinell ffôn uniongyrchol wedi'i sefydlu yn achos darganfod corff baban bach ar lan y Fenai ym Mangor, yn y gobaith y bydd y fam yn cysylltu gyda'r awdurdodau.

Bydd tîm arbenigol ar gael drwy gydol yr amser i dderbyn galwad ganddi meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Wrth siarad yn uniongyrchol gyda'r fam mewn apêl uniongyrchol nos Wener, dywedodd yr Uwch-arolygydd Llinos Davies o Heddlu'r Gogledd: “Rydym yn deall efallai eich bod yn ofni dod ymlaen, ond rydym yn eich annog i gysylltu gyda ni.

“Hoffwn eich sicrhau bod eich lles a’ch diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac yn bryder mawr i ni, a’ch bod yn cael unrhyw sylw meddygol a chymorth sydd eu hangen arnoch.

“Beth bynnag sydd wedi digwydd, nid oes rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen eich hun.

“Rydym wedi creu rhif ffôn yn benodol i chi ei ffonio am gymorth gan arbenigwr a all eich cefnogi yn gyfrinachol.

“Os gwelwch yn dda, os ydych chi’n gweld y neges hon, ffoniwch 07974 241223.

“Pan fyddwch yn ffonio, byddwch yn siarad yn uniongyrchol ag arbenigwr sydd wedi ei hyfforddi, a’i rôl yw gwrando, deall a helpu yn unig.

“Nid sgwrs yw hon y mae angen i chi ei hofni. Cewch eich trin â thosturi, urddas a pharch.”

Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiad gan aelod o'r cyhoedd fod corff wedi ei ddarganfod ger Ffordd Siliwen ym Mangor ychydig cyn 17:00 dydd Sul diwethaf.

Mae’r bwrdd iechyd lleol a’r heddlu wedi apelio ar y fam i gysylltu â’r awdurdodau, gan rybuddio y gallai fod mewn sefyllfa fregus.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd nos Fercher eu bod yn parhau i “chwilio’n eang” am y fam ac yn “gweithio’n agos ac yn gyflym gyda phartneriaid” i ddarganfod beth yn union ddigwyddodd.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.