Cian SFA a Meilyr Tomos yn creu cerddoriaeth ar gyfer gwaith celf yng Nghaerdydd

Cian SFA a Meilyr Tomos yn creu cerddoriaeth ar gyfer gwaith celf yng Nghaerdydd

Mae aelod o'r band Cymreig Super Furry Animals a'r cerddor Meilyr Tomos wedi creu cerddoriaeth ar gyfer darn o gelf sydd i'w weld yng nghanol Caerdydd dros gyfnod y Nadolig.

Mae Cian Ciarán wedi cydweithio â Meilyr Tomos i greu trac sain gwreiddiol ar gyfer yr atyniad, sydd wedi cael ei arddangos mewn gwyliau rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau, yr Iseldiroedd a Llundain.

Bydd TOROID i'w weld tu allan i'r orsaf drenau yn Sgwâr Canolog Caerdydd rhwng 25 Tachwedd a 5 Ionawr 2027.

Dyma'r tro cyntaf i waith gan y stiwdio gelf This is Loop gael ei arddangos yng Nghymru.

Mae'r cerflun, sydd wedi ei greu gan yr artistiaid Harriet Lumby ac Alan Hayes o Wlad yr Haf, yn cynnwys 12 o gylchoedd anferth ag arwynebau drych.

Mae'r strwythur yn bedwar metr o uchder ac yn 13 metr mewn diamedr, ac yn cyfuno goleuadau, adlewyrchiadau a sain.

Mae'r gerddoriaeth sydd wedi ei chreu'n arbennig ar gyfer yr arddangosfa yng Nghaerdydd wedi ei hysbrydoli gan hanes diwydiannol a diwylliannol y brifddinas.

Mae'n cynnwys recordiadau arbrofol o synau metelaidd, gan gynnwys synau sydd wedi eu creu gan ddefnyddio gwifrau dur a magnetau.

Super Furry Animals

Mae Cian Ciarán yn un o aelodau gwreiddiol Super Furry Animals, a gafodd ei ffurfio yng Nghaerdydd yn 1993.

Daeth y band yn un o grwpiau mwyaf adnabyddus Cymru yn ystod y 1990au a'r 2000au, gan ddenu cynulleidfa ryngwladol drwy gyfuno cerddoriaeth roc, pop ac electronig.

Mae'r band, sy'n cynnwys Gruff Rhys, Huw Bunford, Guto Pryce, Dafydd Ieuan a Cian Ciarán, wedi cael pedair albwm yn 10 uchaf siartiau'r DU ac 19 o senglau yn y 40 uchaf.

Yn 2000, fe gyhoeddodd y band yr albwm Cymraeg Mwng, a gyrhaeddodd rif 11 yn siart albymau'r DU.

Yn ogystal â'i waith gyda'r band, mae Ciarán yn artist unigol ac yn gyfansoddwr sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru.

Mae e a Meilyr Tomos wedi bod yn cydweithio ar brosiectau cerddorol ers eu harddegau cynnar.

Wrth drafod y gosodwaith newydd, dywedodd Ciarán fod rhywbeth arallfydol am y cerflun a'i fod yn ennyn ofn yr anhysbys.

"Ond pan ddaw'n fyw, mae'n ennyn chwilfrydedd ac yn groesawgar," meddai.

"Mae'r trac sain yn ymateb i'r emosiynau hyn, gyda'r bwriad o ddenu pobl i ryngweithio â'i lewyrch a'i arwynebau metelaidd adlewyrchol."

'Rhywbeth arbennig'

Mae'r gosodwaith yn rhan ganolog o ymgyrch Nadolig FOR Cardiff eleni, sy'n anelu at ddenu rhagor o bobl i ganol y ddinas yn ystod cyfnod masnachu pwysig i fusnesau lleol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol FOR Cardiff, Carolyn Brownell, fod y Nadolig yn gyfnod hynod bwysig i fusnesau'r brifddinas.

"Mae TOROID yn rhywbeth arbennig iawn. Dyma'r tro cyntaf i This is Loop ddod ag un o'u gosodiadau i Gymru, ac rydym wrth ein bodd yn gallu arddangos darn mor uchelgeisiol o gelf gyhoeddus yng nghanol y ddinas," meddai.

"Mae'r cydweithio â Ciarán a Tomos yn ei wneud hyd yn oed yn fwy ystyrlon, gan ddod â thalent greadigol sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ynghyd â thrac sain sydd wedi ei ysbrydoli gan hanes a hunaniaeth Caerdydd."

Mae'r artistiaid Harriet Lumby ac Alan Hayes hefyd wedi croesawu'r cyfle i arddangos eu gwaith yng Nghymru am y tro cyntaf.

Dywedodd y ddau eu bod yn gobeithio y bydd y cydweithio'n dod ag "ychydig o olau a rhyfeddod" i'r Sgwâr Canolog dros y gaeaf.

Bydd modd gweld y gosodwaith am ddim rhwng 16:00 a 22:30 bob dydd tan 5 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.