Sir Gâr: Ymgyrch chwilio ar draeth yn dod i ben

09/06/2026
Traeth Cefn Sidan

Mae timau achub wedi dod ag ymgyrch chwilio i ben ar draeth yn Sir Gâr, ac yn fodlon nad oedd unrhyw berson mewn perygl.

Cafodd Gwylwyr y Glannau a swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i draeth Cefn Sidan ym Mhen-bre, ger Porth Tywyn, am 21.50 nos Lun.

Roeddent yn ymateb i alwad yn adrodd bod dau unigolyn yn gwisgo dillad tywyll ac yn chwifio fflachlamp wrth ymyl y môr.

Dechreuodd swyddogion o sawl asiantaeth chwilio amdanyn nhw, ond ni chafodd y ddau berson eu lleoli.

Mewn diweddariad gan Heddlu Dyfed Powys brynhawn Mawrth, daeth cadarnhad na fyddent yn parhau â’u hymdrechion.

Dywedodd llefarydd: “Yn dilyn yr alwad ddoe (8 Mehefin) yn ymwneud ag unigolion ar draeth Cefn Sidan, mae'r wybodaeth wedi'i hadolygu ac mae swyddogion yn fodlon nad oedd unrhyw risg o niwed na pherygl, er bod yr alwad wedi'i gwneud gyda bwriad da.

“Gyda chymorth ein hasiantaethau partner, mae archwiliad o'r traeth a'r ardal gyfagos wedi'i gwblhau heb i unrhyw un gael ei ddarganfod.

“Ni ddaeth unrhyw alwadau pellach yn mynegi pryder, ac ni ddaeth gwybodaeth am unrhyw bobl ar goll yn yr ardal.

“Rydym bob amser yn cymryd adroddiadau o'r math hyn o ddifrif ac rydym eisiau diolch i'r cyhoedd am eu gwyliadwriaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.