'Chwifio'r faner dros Gymru' mewn cystadleuaeth pêl-rwyd cerdded ym Mhortiwgal

Pel-rwyd cerdded

Bydd tîm pêl-rwyd cerdded o Sir Gaerfyrddin yn "chwifio'r faner dros Gymru" mewn cystadleuaeth ym Mhortiwgal dros y penwythnos.

Nhw fydd yr unig dîm o Gymru fydd yn cystadlu yn y twrnamaint yn yr Algarve ar 16 ac 17 Mai.

Fe fydd timau eraill o Loegr a Phortiwgal hefyd yn cystadlu.

Un fydd yn chwarae yw Karen Lewis, 66 oed o Langyndeyrn, ac fe ddechreuodd chwarae ar ôl colli ei gŵr yn 2021.

"O’n i’n trio ffeindio rhywbeth i wneud, so fe ddechreuais i chwarae wedyn yn 2022," meddai wrth Newyddion S4C.

“O’n i’n rili joio fe, mae fe’n lot o sbort a nawr rwy’n chwarae netball arferfol.

“Fi’n chwarae tri gwaith yr wythnos nawr. Mae’n cadw fi’n ffit, cael cymdeithasu gyda’r menywod eraill sydd yn yr un sefyllfa â fi.

“Mae’n helpu’r iechyd meddwl lot, fi’n mental health nurse felly fi’n gwybod be sy’n dda i’r meddwl - a nawr rydyn ni’n mynd bant i Bortiwgal."

Image
Un o gemau'r tîm yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin
Un o gemau'r tîm yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin

Mae pêl-rwyd cerdded yn fersiwn arafach o bêl-rwyd arferol, ac nid yw’n cynnwys rhedeg na neidio.

Ar hyn o bryd, mae tîm Karen yn cyfarfod yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin bob nos Lun, ac mae'r chwaraewyr rhwng 30 a 60 oed.

Mae tri thîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd yn Sir Gâr, ac mae Karen yn gobeithio y bydd cystadlu ym Mhortiwgal yn arwain at fwy o bobl yn chwarae yn y sir.

“Ma’r ochr gymdeithasol yn bwysig hefyd, mae cinio wedi’i drefnu gyda ni ym Mhortiwgal a rydyn ni yno am bedair noson," meddai.

“S’dim angen profiad arno chi o gwbl, jyst cerdded yw e, s’dim rhedeg na dim byd fel ’na.

“Ni’n chwerthin a cael ymlaen yn dda, mae’n fwy o social na exercise rili.

“Mae 11 o ni yn mynd mas, a saith yn chwarae ar yr un pryd wrth gwrs.

“Byddai fe’n neis cael mwy i ni gael dau dîm pan fyddwn ni’n ôl wedyn. 

"Ni’n chwarae pedair gêm dros y penwythnos, felly byddai fe’n neis cael mwy.”


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.