Carchar am oes i ddyn ifanc o Brestatyn am lofruddio ei fam
Carchar am oes i ddyn ifanc o Brestatyn am lofruddio ei fam
Mae dyn 18 oed o Sir Ddinbych wedi ei garcharu am oes am lofruddio ei fam.
Fe fydd yn rhaid i Tristan Roberts dreulio cyfnod isafswm o 22 mlynedd a chwe mis dan glo am lofruddio ei fam Angela Shellis, 45 oed.
Fe wnaeth Roberts gynllunio'r drosedd yn ystod yr wythnosau cyn y llofruddiaeth, gan ymchwilio i ddulliau lladd, a phrynu arfau posibl fel cyllyll a bwyell.
Dechreuodd ymosod ar ei fam, Angela Shellis, 45 oed, yn eu cartref ym Mhrestatyn, ar 23 Hydref 2025.
Yn ddiweddarach, fe'i perswadiodd i adael y tŷ gan ddweud wrthi y byddai'n mynd â hi i gael cymorth meddygol.
Gwarchodfa natur
Fe gerddodd y ddau drwy Warchodfa Natur Prestatyn lle tynnodd forthwyl o’i fag cefn a lladd ei fam drwy ei tharo sawl gwaith ar ei phen.
Dangosodd tystiolaeth ddigidol a gafodd ei hadfer o liniadur Roberts ei fod wedi ymchwilio i sut i gael gwared ar olion gwaed a DNA.
Dywedodd Andrew Slight o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd lefel y cynllunio a wnaeth Tristan Roberts cyn cyflawni’r drosedd ddychrynllyd hon yn fanwl ac yn fwriadus.
“Mae’n rhaid bod eiliadau olaf ei fam wedi bod yn frawychus, ond wnaeth y diffynnydd ddim dangos gofid nac edifeirwch am ei weithredoedd.
“Roedd y dystiolaeth gref a gyflwynwyd gerbron Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhoi darlun clir ac yn dangos bwriad Roberts, a arweiniodd ato’n pledio’n euog.
“Er bod yr achos hwn wedi dod i ben, rydyn ni’n dal i feddwl am deulu a ffrindiau Angela sy’n teimlo’r ergyd ofnadwy o’i cholli.”
Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod yn "ferch, chwaer, mam a modryb gariadus a fydd yn cael ei cholli yn fawr."