Y gantores Duffy i drafod cael ei herwgipio a dioddef ymosodiad rhyw

Duffy

Fe fydd y gantores o Nefyn, Duffy, yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd gan drafod am y tro cyntaf ei phrofiad o gael ei herwgipio a wynebu ymosodiad rhywiol. 

Bydd y gantores 41 oed, sydd yn enwog am ei chaneuon 'Mercy' a 'Warwick Avenue' yn siarad yn agored am ei bywyd fel ffigwr cyhoeddus a'i bywyd preifat mewn rhaglen ddogfen newydd ar Disney+. 

Fe ddaeth y seren yn adnabyddus wedi i'w halbwm Rockferry gael ei rhyddhau yn 2008.

Roedd y gân 'Mercy' yn rhif un yn y siartiau cerddoriaeth Prydeinig am bum wythnos y flwyddyn honno.

Fe ddatgelodd y gantores yn 2020 ei bod hi wedi cael ei threisio a'i chaethiwo. 

Bydd y rhaglen ddogfen newydd yn trafod bywyd y gantores, o'i magwraeth yng Nghymru i'w gyrfa gerddoriaeth i'w bywyd presennol, bron i 15 mlynedd ar ôl iddi ddioddef yr ymosodiad. 

Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyfweliadau gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr y gantores. 

Dywedodd y cyfarwyddwr Gill Callan: "Mae bywyd Duffy wedi cael ei siapio gan lwyddiant ac enwogrwydd, ond yn yr un modd gan boen. 

"Dwi'n cael fy nhynnu tuag at y bregusrwydd a'r hyder yn ei stori a sut y gall rhywun gael ei effeithio yn ddwys gan eu profiadau ond gan barhau i ddarganfod llais pwerus fel ei llais hi."

Ychwanegodd Sean Doyle, is-lywydd disgript yn Disney+: “Bydd y ffilm yma yn rhoi cyfle i Duffy adrodd ei stori yn ei geiriau ei hun."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.