'Her ddyddiol' dyn ifanc o Geredigion wrth ymdopi gyda chyflwr niwrolegol prin

'Her ddyddiol' dyn ifanc o Geredigion wrth ymdopi gyda chyflwr niwrolegol prin

Mae dyn ifanc o Geredigion sydd wedi bod yn yr ysbyty ers mis Medi y llynedd o ganlyniad i'w gyflwr niwrolegol prin wedi dweud wrth Newyddion S4C bod diffyg canolfan arbenigol ar gyfer y cyflwr yn ‘anffodus iawn’.

Mae 'Functional Neurological Disorder' (FND) yn gyflwr sydd yn effeithio ar system niwrolegol y corff a sut mae’r ymennydd yn derbyn cyfarwyddiadau.

Yn achos Iestyn Stephens, sy'n 19 oed ac o bentref Talsarn, Ceredigion, mae’n golygu nad yw’n gallu symud ei goesau na’i freichiau ac yn profi trawiadau ('seizures') dyddiol.

Ar hyn o bryd, does dim canolfan arbenigedd yng Nghymru ar gyfer y cyflwr gyda’r ganolfan agosaf yn Lerpwl neu Fryste.

‘Cyflwr cymhleth iawn’

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Iestyn ei bod yn “eithaf anffodus bod dim un gwasanaeth arbenigol am FND yng Nghymru".

“Mae [FND] wedi effeithio arna i mewn llawer o ffyrdd gyda’r symptomau yn cynnwys methu rheoli symudiadau fy mreichiau a choesau. Hefyd dwi’n gorfod byw gyda phoen cronig gwael iawn a dwi’n cael dau seizure yn ddyddiol'" meddai.

“Yn anffodus, does dim ffordd o wella yn gyfan gwbl o’r cyflwr a’r unig ffordd o reoli’r cyflwr yw trio lleihau’r symptomau

“Y ffordd i reoli hynny yw drwy ffisiotherapi dwys ac mae ffordd o gael seiciatrydd mewn i drio rheoli ochr seicolegol y cyflwr."

Ychwanegodd ei fod yn “gobeithio gweld arbenigwr FND wythnos nesaf ond fod rhaid mynd ar draws y ffîn i weld arbenigwr".

“Dim ond saith canolfan sydd yn y Deyrnas Unedig gyda chwech yn Lloegr ac un yn yr Alban," meddai.

"Mae’n eithaf anffodus fod dim un gwasanaeth arbenigol FND yng Nghymru.”

Mae'r cyflwr yn cael ei ystyried fel un prin ac mae’n effeithio ar filoedd o bobl yng Nghymru. Yn ôl elusen FND Hope mae tua un ym mhob tri o'r cleifion sy'n mynychu clinigau niwroleg allanol yn nodi symptomau FND.

Image
Nerys Stephens - FND
Nerys Stephens

Yn ôl Nerys Stephens, mam Iestyn, “mae’r ffaith does dim un canolfan arbenigol o fewn Cymru yn rhywbeth sydd rili ddim yn dderbyniol".

Ychwanegodd fod hyn yn “gwneud cael triniaeth addas i Iestyn yn her ddyddiol i ni".

“Ni’n gwybod bod dim gwellhad ond ma’r ffaith fod e’n byw gyda’r symptomau, mor ddwys ag ydyn nhw ar hyn o bryd yn golygu fod e gyda’r FND, yn methu dod allan o’r ysbyty, o ganlyniad i’r ffaith does dim arbenigedd," meddai.

“Y peth cyntaf yw bod wedi colli annibyniaeth e felly odd rhaid i ni fel teulu addasu. Odd e wedi mynd i ffwrdd i’r brifysgol, odd e fod dychwelyd i’r ail flwyddyn ond erbyn hyn ma fe wedi bod yn yr ysbyty ers chwe mis.

“Ma’ pwysau ar y teulu i ymweld ag e yn ddyddiol, fi yn trio cario ‘mlaen gyda fy ngyrfa llawn amser fel athrawes.

“Ma’ fe’n straen i ni fel teulu yn gyfan gwbl, i weld rhywun oedd yn annibynnol, yn holliach tan chwe mis nôl, mewn gymaint o boen yn ddyddiol, rhywbeth mae ei chwaer yn gweld hi’n anodd mewn gwirionedd, gweld ei brawd mewn poen cyson.”

Dywedodd byrddau iechyd Cymru nad oes ganddyn nhw un ganolfan arbenigol ym maes FND.

Ond dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe eu bod yn edrych ar gyflwyno gwasanaeth arbenigol ar gyfer FND yn y dyfodol.

Wrth ymateb i sylwadau Iestyn Stephens, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ein nod yw sicrhau bod pobl sy'n byw gydag Anhwylder Niwrolegol Swyddogaethol (FND) yn cael mynediad amserol i wasanaethau o ansawdd uchel.

“Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG yn gyfrifol am weithredu ein Datganiad Ansawdd ar gyfer cyflyrau niwrolegol, gyda chefnogaeth gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol (SCNNC). 

“Mae FND wedi cael ei nodi fel maes blaenoriaeth i'r SCNNC, ac mae llwybr cenedlaethol ar gyfer Cymru yn cael ei ddatblygu, gan ddysgu o wersi o Loegr a phrofiad gwasanaethau a ariennir gan Adferiad.”

Ymateb y pleidiau

Dywedodd Aelod Reform UK dros Frycheiniog a Sir Maesyfed, James Evans AS: “Mae Reform UK yn ymrwymedig i ehangu hyfforddiant meddygon ymgynghorol mewn meysydd arbenigol prin, megis FND, ynghyd ag adferiad a ffisiotherapi cysylltiedig, mor gynted a byddai’n bosib. 

“Mae gwella capasiti mynediad dros y ffin am driniaeth a gwasanaethau arbenigol yn hanfodol yn y cyfamser”

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn datganiad: "Mae cleifion gydag Anhwylder Niwrolegol Swyddogaethol yn cael eu gadael heb y gofal arbenigol sydd ei angen arnynt, yn wynebu arhosiad hir a theithiau dros gannoedd o filltiroedd am driniaeth. Dyw hyn ddim digon da.

"Mae pobl yng Nghymru yn haeddu mynediad at gymorth amserol, arbenigol yn agos at adref ac i beidio cael eu gwthio i gefn y rhes neu eu gorfodi dros y ffin.

"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nesaf roi stop ar y loteri côd post yma."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS: "Mae hyn yn fater sydd yn effeithio ar bobl yn fy etholaeth ac yn un yr wyf wedi ei godi yn y Senedd. Yn wir, mae un o bob chwe pherson yng Nghymru yn dioddef o gyflwr niwrolegol.

"Mae yna arbenigedd yn Lerpwl a Bryste, ond mae yna lawer iawn mwy sydd angen ei wneud yma yng Nghymru. Rhaid cael cynllun gweithlu cynhwysfawr mewn lle er mwyn adnabod ble mae’r anghenion ar gyfer y gweithlu proffesiynau perthynol – y therapyddion angenrheidiol, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydy cyflwr y claf yn gwaethygu."

Mae'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Werdd wedi cael cais am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.