Cyn-reolwr Cymru John Toshack wedi derbyn diagnosis o ddementia

John Toshack

Mae cyn-reolwr a chwaraewr Cymru John Toshack wedi derbyn diagnosis o ddementia yn ôl ei fab. 

Fe chwaraeodd Toshack dros Gymru 40 o weithiau ac roedd yn reolwr ar y tîm cenedlaethol yn 1994 a rhwng 2004 a 2010.

Fe ddywedodd mab Toshack, Cameron, wrth y Daily Mail fod ei dad yn wynebu dyddiau da a drwg wrth iddo frwydro'r afiechyd. 

"Mae'n afiechyd ofnadwy. Y cof tymor-byr yr ydym ni'n sylwi arno fwyaf - dwi'n siarad ag ef bron bob dydd ac os byddwn yn sgwrsio yn y prynhawn, efallai na fydd yn cofio ein bod ni’n siarad yn y bore hefyd," meddai.

"Ond os ydw i'n ei holi am y dyddiau yn Lerpwl, neu Sociedad neu Madrid, mae'r manylion yn anhygoel."

Fe wnaeth Toshack reoli Real Madrid rhwng 1989-1990, ac yn 1999. Yn ystod ei gyfnod yno fe enillodd deitl La Liga unwaith. 

Roedd yn rheolwr ar Real Sociedad ar dri achlysur gan ennill y Copa del Rey unwaith.

Gwnaeth Toshack 397 o ymddangosiadau yn ystod ei yrfa i Gaerdydd, Lerpwl ac Abertawe.

Yn Lerpwl, roedd yn rhan o dair ymgyrch a enillodd deitlau yn ystod eu llwyddiant yn y 1970au, yn ogystal â Chwpan Ewrop yn nhymor 1976-77.

Yn Abertawe, fel chwaraewr-reolwr, fe wnaeth eu harwain yr holl ffordd o'r bedwaredd adran i'r adran gyntaf erbyn 1981.

Mae Cameron Toshack yn gweithio fel hyfforddwr pêl-droed yng Ngwlad Thai a chyn hynny fe weithiodd fel is-reolwr yn Leeds. 

Ychwanegodd: "Dwi'n siarad ag ef am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Ngwlad Thai ac mae'n parhau i roi cyngor gwych."

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.