Arestio dau ddyn mewn cysylltiad â llosgi ambiwlansys yn Llundain
Mae dau ddyn wedi eu harestio mewn cysylltiad â llosgi ambiwlansys yn fwriadol yn Llundain ddydd Llun.
Fe gafodd pedwar ambiwlans o Wasanaeth Ambiwlans Cymunedol Iddewig (Hatzola) eu rhoi ar dân yn yr ymosodiad yn Golders Green am tua 01:45 fore Llun.
Dywedodd Heddlu'r Met fod dyn 47 oed a dyn 45 oed wedi eu harestio mewn cysylltiad â'r ymosodiad.
Ychwanegodd y llu eu bod wedi eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac mae'r ddau ddyn wedi cael eu cludo i orsaf heddlu yn Llundain i gael eu holi.
Dywedodd y Comander Helen Flanagan, pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth Llundain: "Rydym wedi bod yn gweithio'n ddiflino ers yr ymosodiad ofnadwy yma ac mae hyn wedi ein harwain ni at arestio'r ddau ddyn fore Mercher.
"Mae hyn yn ymddangos i fod yn ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymchwiliad, ond rydym ni hefyd yn ymwybodol fod y deunydd CCTV o'r digwyddiad yn awgrymu bod o leiaf tri pherson yn rhan o'r ymosodiad. "
