Caerdydd: Dyn yn yr ysbyty wedi ymosodiad ger garej ym Mhontcanna
Mae dyn 57 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad ger gorsaf betrol ym Mhontcanna, Caerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i ymosodiad gafodd ei adrodd am tua 02:30 fore Mercher ar Heol y Gadeirlan, ger garej Esso.
Roedd y garej ar gau am gyfnod wrth i swyddogion ymchwilio i’r digwyddiad, ond fe ailagorodd toc wedi 08:00 fore Mercher.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle mae’n parhau i dderbyn triniaeth.
Mae dynes 41 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o achosi clwyf gyda’r bwriad o achosi niwed difrifol ac o ymosod ar weithiwr gwasanaethau brys.
Dywedodd yr heddlu fod y rhai oedd ynghlwm â’r digwyddiad yn adnabod ei gilydd a bod ymholiadau’n parhau.
