Y Senedd yn rhoi sêl bendith i gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar yr ail gynnig
Mae’r Senedd wedi rhoi ei sêl bendith i gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol, a hynny ar yr ail gynnig.
Cafodd y gyllideb atodol wreiddiol ei gwrthod ar ôl pleidlais cyn yr haf, ond ers hynny mae gweinidogion Plaid Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llafur.
Arian ar gyfer pobl ag anghenion dysgu ychwanegol oedd yn destun yr anghytuno mwyaf.
Roedd Llafur wedi galw am £100m yn fwy ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol eleni. £120m dros dair blynedd oedd cynnig terfynol Llywodraeth Cymru yng Ngorffennaf.
Mae’r ddwy ochr bellach wedi cyfaddawdu ar £60m eleni.
Roedd yna addewid o £100m hefyd ar gyfer mynd i’r afael â rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, yn ogystal â £55m ar gyfer gofal plant.
Ond yn ôl Reform dyw’r cynlluniau ddim yn mynd yn ddigon pell, gyda’r brif wrthblaid yn pleidleisio’n erbyn y cynlluniau heno.
Fe basiodd y gyllideb atodol o 54 i 39 o bleidleisiau.
Dywedodd y gweinidog cyllid Elin Jones fod y £60 miliwn ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol “yn fforddiadwy ac mae modd ei ddarparu”.
“Mae angen i’r bobl sy’n byw gyda phobl ag anghenion dysgu ychwanegol, ac sy’n gweithio gyda nhw, wybod bod pobl yn y Senedd hon sydd wedi cael eu hethol i’w gwasanaethu ac i’w cefnogi,” meddai.
“Mae angen iddyn nhw wybod bod mwyafrif yn y Senedd hon sydd am wneud hyn, ac am wneud mwy yn y dyfodol hefyd i helpu pobl mewn angen yng Nghymru.”