Cyhuddo cynghorydd Reform yn Lloegr o droseddau yng Nghymru
Mae dyn sy’n gynghorydd Reform UK yn Lloegr wedi ei gyhuddo o droseddau yng Nghymru, meddai’r heddlu.
Mae George Madgwick, cynghorydd Reform UK ar Gyngor Sir Hampshire wedi’i gyhuddo o 35 o droseddau ar y cyfan, gan gynnwys 12 cyhuddiad o dreisio, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Ychwanegodd Heddlu Hampshire ac Ynys Wyth bod y troseddau honedig hyn wedi digwydd rhwng 2008 a 2021 yn Portsmouth ac yng Nghymru.
George Madgwick yw arweinydd grŵp Reform UK ar Gyngor Sir Hampshire ac mae hefyd yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Portsmouth.
Mae’r holl honiadau’n ymwneud â phedwar dioddefwr, oedd rhwng 16 ac 17 oed ar y pryd, meddai'r heddlu.
Mae’r dyn 37 oed o Portsmouth wedi’i gyhuddo o 12 trosedd o dreisio, dwy drosedd o ymosodiad rhywiol, dwy drosedd o ymosodiad drwy dreiddio, dwy drosedd o greu delweddau anweddus o blentyn ac un drosedd o ddosbarthu delweddau anweddus o blentyn.
Mae George Madgwick hefyd wedi’i gyhuddo o un drosedd o achosi neu annog camfanteisio’n rhywiol ar blentyn, wyth trosedd o ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol, dwy drosedd o ymddygiad rheolaethol neu orfodol, un drosedd o stelcio, un drosedd o fygwth lladd, un drosedd o garcharu ar gam, un drosedd o ddwyn ac un drosedd o ddifrod troseddol.
Cafodd ymchwiliad ei lansio ar 24 Gorffennaf 2025 ar ôl i swyddogion gael adroddiad am drosedd rywiol, meddai’r heddlu.
Ar 6 Ionawr 2026, fe wnaeth swyddogion arestio dyn mewn cyfeiriad yn Wandsworth, Llundain.
Mae Madgwick wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos yn Llys Ynadon Portsmouth ar 25 Tachwedd.
Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran Reform UK ei fod wedi’i atal o’r blaid “ar unwaith”.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu erlyn George Madgwick am droseddau rhywiol difrifol, gan gynnwys sawl trosedd o dreisio.
“Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fygwth lladd, carcharu ar gam a stelcio.
“Mae ein herlynwyr wedi gweithio i gadarnhau bod digon o dystiolaeth a’i bod er budd y cyhoedd i ddod â’r achos o flaen llys.
“Rydym yn atgoffa pawb dan sylw fod yr achos yn erbyn y diffynnydd bellach yn weithredol a bod ganddo hawl i achos llys teg.
“Ni ddylid adrodd, gwneud sylwadau na rhannu gwybodaeth a allai mewn unrhyw ffordd niweidio tegwch yr achos hwn.”