Teyrnged i fenyw 'garedig a thalentog' a fu farw mewn gwrthdrawiad yn y Drenewydd

Monika Jones

Mae teulu menyw 79 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Monika Jones mewn gwrthdrawiad yn ymwneud ag un cerbyd ar yr A483 yn y Drenewydd ddydd Sul, 25 Hydref.

Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu fod Mrs Jones "yn cael ei charu a’i pharchu gan gymaint o bobl".

“Roedd hi mor annwyl, a hi oedd y fam, y nain a’r hen-nain orau y gallai unrhyw un ddymuno.

“Roedd hi’n fenyw mor garedig a thalentog, ac rydym ni, ei theulu a’i ffrindiau, wedi’n chwalu’n llwyr oherwydd ei cholli.”

Ychwanegodd y teulu: “Rydym yn dy garu di, Mam. Byddi wastad gyda ni.”

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.