Cyhuddo dyn o lofruddio dynes yn Llandudno nos Sadwrn

Llys Ynadon Llandudno

Mae dyn 36 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes yn Llandudno, Sir Conwy, nos Sadwrn.

Fe wnaeth Christopher Thomas Ellis ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mawrth ar gyhuddiad o lofruddio Eleanor Rae O'Dell.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Ffordd Sant Seiriol yn y dref toc wedi 20.00 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd yno.

Daeth swyddogion o hyd i fenyw 33 oed wedi marw y tu mewn i’r eiddo.

Yn ddiweddarach, cafodd Ellis ei weld ger Rhodfa'r Drindod yn y dref a chafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher.

Dywedodd y Swyddog Ymchwilio Arweiniol, y Ditectif Arolygydd Rob Mahoney: "Mae ein cydymdeimlad yn parhau gyda ffrindiau ac anwyliaid y ddynes a fu farw’n drasig yn y digwyddiad hwn.

"Mae ymholiadau’r heddlu yn parhau, a hoffwn apelio ar unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Ffordd Sant Seiriol rhwng 19.00 ac 20.30 i gysylltu â ni.

"Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi bod allan yn casglu losin Calan Gaeaf gyda phlant neu’n dathlu Calan Gaeaf yn yr ardal.

"Efallai eich bod wedi gweld neu glywed rhywbeth, neu fod gennych luniau camera dashfwrdd neu ffôn symudol a allai gynorthwyo ein hymchwiliad.

"Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am y digwyddiad hwn gysylltu â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio byw ar-lein, neu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod O178285."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.