Plismon gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi ei gyhuddo o dreisio
Mae cwnstabl gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi ei gyhuddo o dreisio a throseddau rhyw eraill.
Fe wnaeth PC Ashley Dodge, 35 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Iau ar gyfer gwrandawiad byr.
Mae wedi ei gyhuddo o dreisio a thri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol.
Roedd y cyhuddiadau honedig wedi digwydd pan nad oedd ar ddyletswydd.
Cafodd ei arestio gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ym mis Hydref y llynedd.
Cafodd ei wahardd o'i ddyletswyddau yn syth ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyfer gwrandawiad ple ym mis Tachwedd.