'Braint rhoi’r crys ambr a du yn ôl ymlaen': Cyn-bêl-droediwr 53 oed yn cefnu ar ymddeoliad a sgorio
Ddeng mlynedd ar ôl cael strôc, mae’r cyn-bêl-droediwr proffesiynol Marc Lloyd Williams wedi sgorio ar ôl iddo gefnu ar ei ymddeoliad a dychwelyd i chwarae dros CPD Llanberis yn 53 oed.
Fe sgoriodd un o’r goliau wrth i Lanberis guro Tref Amlwch 8-0 yng Nghwpan Cymru ddydd Sadwrn.
Dychwelodd i’r cae dri mis ar ôl iddo redeg Marathon Llundain i godi arian i’r Gymdeithas Strôc.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Marc nad oedd wedi bwriadu dechrau chwarae pêl-droed eto.
Roedd yn aros gyda’i fam a’i chwaer yn Llanberis pan ymunodd â sesiynau ymarfer cyn y tymor gyda’i hen glwb.
“O’n i’n meddwl, ‘Wel, waeth i fi ymuno,’ ac oedd ffrindiau yno,” meddai.
“Oedd yr hogia wedyn yn holi, ‘Wel, waeth i ti arwyddo am y tymor, ddim?’
“A wedyn nesh i chwarae gêm gyfeillgar yr wythnos diwetha.”
‘Un o’r goliau hawsa’
Ar ôl penderfynu arwyddo i’r clwb, fe gafodd gyfle i chwarae yng ngêm Cwpan Cymru rhwng Llanberis a Thref Amlwch.
A sgoriodd un o'r goliau, wrth i’r clwb sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.
“Oedd hi’n braf, wrth gwrs,” meddai.
“Oedd ’na dipyn o bwysau, pawb yn disgwyl i chi sgorio.
“Oedd hi’n un o’r goliau hawsa' 'dw i wedi sgorio, dwi’n meddwl.
“Y peth pwysicaf oedd bod y tîm wedi ennill a mynd i’r rownd nesaf.”
Llanberis oedd ei glwb olaf cyn iddo ymddeol.
“Oedd hi’n fraint rhoi’r crys ambr a du yn ôl ymlaen,” meddai.
Dychwelyd ar ôl strôc
Yn dal y record am sgorio'r nifer fwyaf o goliau yng nghyngrair y Cymru Premier, cafodd Marc Lloyd Williams, neu 'Jiws' strôc yn 43 oed ym mis Tachwedd 2016.
Fe ddywedodd ei fod yn ffodus ei fod yn ffit ar y pryd, ond ei fod wedi gorfod gweithio’n galed i adennill ei iechyd.
“O’n i’n lwcus bod fi’n ffit pan gafodd y strôc daro fi,” meddai.
“O’n i’n dysgu mynd yn ôl ar dy feic, mewn ffordd, a thrio dod yn ôl ati mor sydyn ag o’n i’n gallu.”
Ar ôl cael lle ym Marathon Llundain, fe ddechreuodd ymarfer yn rheolaidd.
“Nes i ymarfer yn galed, colli pwysau, bwyta’n iachach, on wrth gwrs, do'n i ddim wedi meddwl ailgydio a chwarae pêl-droed eto,” meddai.
Nid yw’n gwybod eto faint o gemau y bydd yn eu chwarae dros Lanberis, ond mae wedi arwyddo er mwyn helpu’r clwb pan fydd angen.
“Dwi’n meddwl bod ganddyn nhw garfan reit dda rŵan, reit gryf,” meddai.
“Dwi jyst wedi dweud y byddwn i’n arwyddo i helpu nhw allan.
“Os ydyn nhw’n stryglo, fedra i helpu nhw allan mewn gemau canol wythnos.”