Ble mae'r strydoedd drytaf yng Nghymru?
Mae cwmni gwerthu tai Rightmove wedi cyhoeddi rhestr o'r "strydoedd drytaf" yng Nghymru.
Ar gyfartaledd mae pris tŷ ar stryd ddrytaf Prydain yn costio £12.5 miliwn, yn ôl y wefan.
Ffordd Winnington yn Barnet, Llundain yw lleoliad y stryd honno, ac mae pedwar o'r pum stryd ddrytaf ym Mhrydain wedi eu lleoli ym mhrifddinas Lloegr.
Yng Nghymru, Ffordd Hollybush yng Nghyncoed, Caerdydd yw'r ddrytaf, gyda phris tŷ ar gyfartaledd yno yn £1,237,500.
Yn yr Alban mae pris tŷ ar y stryd ddrytaf y wlad yn dipyn is, gydag eiddo yng Ngerddi Drumsheugh yng Nghaeredin yn costio tua £560,000 ar gyfartaledd.
Dyma restr y strydoedd drytaf Cymru, yn ôl gwefan Rightmove, gyda phris tŷ yno ar gyfartaledd:
1. Ffordd Hollybush, CF23, Caerdydd, £1,237,500
2. Ffordd Llanrwst, LL28, Conwy, £583,745
3. Heol Cae Pwll, CF71, Bro Morgannwg, £537,500
4. Ffordd y Gorllewin, CF36, Pen-y-bont ar Ogwr, £528,119
5. Ffordd Fields Park, NP20, Casnewydd, £504,992
