Awdurdodau yn ymchwilio i ganolfan achub anifeiliaid yn Sir Gâr

Many Tears, Cefneithin

Mae'r awdurdodau yn ymchwilio i ganolfan achub anifeiliaid yn Sir Gâr yn dilyn pryderon am y ffordd y mae cŵn yn cael eu trin yno.

Fe aeth arolygwyr o Drwyddedu Anifeiliaid Cymru, ynghyd â swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys, i ganolfan achub Many Tears yng Nghefneithin ddydd Mawrth yn dilyn honiadau o gamymddwyn.

Dywedodd llefarydd ar ran Trwyddedu Anifeiliaid Cymru fod yr ymchwiliad yn parhau. 

Mae Many Tears yn dweud eu bod yn trin eu hanifeiliaid yn "eithriadol o dda" a'u bod yn "gweithio'n agos" gyda'r awdurdodau.

Y gred yw nad oes unrhyw anifeiliaid wedi cael eu symud o'r ganolfan wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal.

Daw yn dilyn cwynion gan nifer o bobl sydd wedi achub anifeiliaid o Many Tears, yn ogystal â chyn-weithiwr y ganolfan.

Mae rhai o'r honiadau'n ymwneud â chŵn bach sydd wedi'u cludo i Abergwaun o ffermydd cŵn yn Iwerddon i'w hailgartrefu ac yna'u gwerthu gan y ganolfan.

Yn ôl WalesOnline, mae'r honiadau'n canolbwyntio ar frechlynnau nad ydynt yn cael eu rhoi yn yr oergell, cŵn bach nad ydynt yn cael eu gwahanu wrth eu cludo o Abergwaun i'r ganolfan achub yng Nghefneithin, a chynhyrchu cardiau brechu ar raddfa fawr.

Mae'n dweud bod honiadau hefyd wedi dod i'r amlwg sy'n awgrymu bod rhai cŵn wedi cael eu rhoi mewn cartrefi newydd heb ddatgelu'n llawn unrhyw broblemau iechyd presennol, gan godi amheuon am ddibynadwyedd dogfennaeth feddygol ac asesiadau cyn iddynt gael eu mabwysiadu.

'Ymdrechu i gynnal y safonau uchaf'

Dywedodd llefarydd ar ran Many Tears: "Ddydd Mawrth, roedd cynrychiolwyr o Drwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi ymweld â'r ganolfan i nôl gwaith papur.

"Ni chafodd unrhyw anifeiliaid eu symud o'r safle yn ystod yr ymweliad ac ni chafodd unrhyw bryderon eu codi am gyflwr na gofal yr anifeiliaid ar y safle.

"Rydym yn falch o’r gofal eithriadol o dda y mae ein staff yn ei ddarparu, ac mae ein cyfleusterau’n sicrhau bod ein hanifeiliaid yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau i’w datblygu a’u hadfer, er mwyn iddynt ffynnu yn ein gofal."

Fe aeth ymlaen i ddweud bod rhai problemau yn gallu codi o bryd i'w gilydd, gan fod y ganolfan yn ailgartrefu rhwng 2,500-3,000 o gŵn y flwyddyn. 

"Gyda'r nifer hwn o gŵn yn dod drwy'r ganolfan, bydd rhai achosion ynysig bob amser lle mae pryderon am iechyd neu ymddygiad y cŵn ond yn dod i'r amlwg ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu. Nid oes modd rhagweld nac atal y sefyllfaoedd hyn bob amser, er gwaethaf ymdrechion gorau ac arbenigedd ein timau hyfforddedig a'n cefnogaeth filfeddygol," meddai.

"Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau fel elusen achub anifeiliaid sefydledig ac uchel ei pharch o ddifrif ac yn ymdrechu i gynnal y safonau uchaf ar draws popeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i weithio'n agos gyda'r awdurdodau i ymchwilio i bob honiad sy'n cael ei godi.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'r awdurdodau i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i gwblhau'r broses ymchwilio."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.