Artemis II: Disgwyl i'r llong ofod deithio heibio'r Lleuad
Mae disgwyl i long ofod Artemis II deithio heibio'r Lleuad nos Lun.
Cafodd y roced sydd yn 322 troedfedd o hyd ac yn cludo pedwar aelod o'r criw ei lansio yn llwyddiannus o Cape Canaveral yn Florida, UDA ddydd Mercher diwethaf.
Dyma'r tro cyntaf i ofodwyr adael orbit y ddaear ers 1972, dros 50 mlynedd yn ôl.
Y nod yw bod y daith NASA yn mynd â'r criw ymhellach o'r Ddaear nag unrhyw un o'r blaen.
Roedd y pedwar gofodwr, sef Reid Wiseman, Victor Glover, Christina Koch a Jeremy Hansen, wedi cylchdroi'r Ddaear am tua 25 awr cyn anelu tuag at y Lleuad.
Ni fydd y criw yn glanio ar y Lleuad ei hun yn ystod y daith. Y bwriad yw teithio heibio'r Lleuad, sydd 244,000 o filltiroedd i ffwrdd - gan hedfan 5,000 o filltiroedd tu hwnt i hynny.
Am tua 23:47 nos Lun, mae disgwyl i'r llong ofod basio heibio'r Lleuad, gan golli cyswllt am tua 40 munud.
Fe fydd y signalau radio a laser sydd yn caniatáu cyfathrebu rhwng Artemis II a chriw Nasa ar y ddaear yn cael eu hatal gan y Lleuad ei hun.
Dywedodd y peilot Victor Glover ei fod yn gobeithio y bydd y byd yn defnyddio'r amser i ddod at ei gilydd.
"Pan rydym ni y tu ôl i'r Lleuad, allan o gyswllt â phawb, gadewch i ni ddefnyddio hynny fel cyfle," meddai.
Dyma fydd yr agosaf y bydd y llong ofod yn dod i wyneb y Lleuad.
Fe fydd y criw yn treulio'r mwyafrif o'r diwrnod yn cymryd lluniau a fideos o'r Lleuad, gan gofnodi eu harsylwadau.
Er na fydd y gofodwyr yn glanio ar y lloeren, mae taith Artemis II yn paratoi'r ffordd ar gyfer glanio ar y Lleuad yn y dyfodol, ac mae hefyd yn gosod sylfaen i anfon criw i blaned Mawrth meddai NASA.
Gobaith NASA yw bydd gofodwyr yn dychwelyd i'r Lleuad cyn 2028, tra bod Tsieina yn anelu i wneud hynny erbyn 2030.