'Arafu rhyw fymryn': Ysgol Glanaethwy i werthu ei safle ym Mharc Menai
Mae Ysgol Glanaethwy wedi cyhoeddi y bydd yn gwerthu ei safle ym Mharc Menai ym Mangor yn y flwyddyn newydd ac yn torri'n ôl ar niferoedd ac oedran y disgyblion y maen nhw'n eu hyfforddi.
Mewn datganiad fe ddywedodd yr ysgol, a gafodd ei sefydlu ym 1990, bod yr amser wedi dod i "arafu rhyw fymryn a gwerthu'r adeilad".
Mae Rhian a Cefin Roberts, sylfaenwyr Ysgol Glanaethwy, wedi rhedeg y busnes ers dros 35 o flynyddoedd, ac wedi teithio'r byd gyda rhai o'u corau a'u cynyrchiadau.
Mi fydd y busnes yn gwerthu'r tir a'r adeilad ym Mharc Menai i Goleg Menai, ond fe ddywedodd Ysgol Glanaethwy nad yw hynny'n golygu ei bod yn "rhoi'r ffidil yn y to".
Dywedodd Cefin a Rhian Roberts eu bod yn "hynod falch" mai sefydliad addysgiadol fydd yn cymryd perchnogaeth ar y tir a'r safle, a'i fod yn "gysur" meddwl y bydd eu gweledigaeth o addysgu pobl ifanc "yn parhau yn yr adeilad".
O wneud y newidiadau mae'r ddau yn credu y bydd yn rhoi "'chydig mwy o amser" iddyn nhw i weithio ar syniadau creadigol newydd - gyda disgwyl i'r hyfforddi a'r cynhyrchu "barhau".
Fe fydd yr enw 'ysgol' yn cael ei dynnu, ond bydd yr enw 'Glanaethwy' yn parhau gyda bwriad i nifer o gynyrchiadau drwy'r flwyddyn "ddathlu" y diwedd cyfnod mawr i'w hanes.
Mewn ymateb fe ddywedodd Grŵp Llandrillo Menai: "Rydym wrth ein bodd yn cael y cyfle i gaffael adeilad sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn natblygiad cenedlaethau o bobl ifanc ledled Gwynedd a Chymru.
"Rydym wedi mwynhau perthynas gref ers blynyddoedd lawer, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y bartneriaeth honno wrth i ni edrych ymlaen at lunio'r bennod nesaf ar gyfer yr adeilad nodedig hwn."
Fe fydd cyfres o gynyrchiadau gan yr Ysgol dros y flwyddyn nesaf fel rhan o ddathliadau'r diwedd cyfnod.