Apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghwm Tawe

Cylchfan Glais

Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghwm Tawe.

Dywedodd y llu bod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng car a beic modur ar ffordd yr A4067 ger cylchfan Glais am tua 22:40 nos Wener.

Ychwanegodd yr heddlu bod parafyddygon wedi mynychu ond bod dyn 52 oed o Crook yn Sir Durham wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod, meddai’r llu.

Maen nhw'n apelio am gymorth unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau camera dashfwrdd o’r ardal.

Fe all unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu sydd yn gallu bod o gymorth i'r ymchwiliad cysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu ar eu gwefan a dyfynnu'r cyfeirnod 2600331858.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.