Apêl Plant mewn Angen 2026 yn codi dros £38 miliwn
Mae apêl Plant mewn Angen 2026 wedi codi dros £38 miliwn i'r elusen.
Fe gafodd rhaglen Plant mewn Angen ei darlledu ar BBC One nos Wener, gyda Alex Jones, Rylan a Sara Cox ymysg y cyflwynwyr.
Cafodd y cyfanswm o £38,720,170 ei gyhoeddi fel rhan o'r rhaglen.
Roedd y rhaglen yn cynnwys straeon a oedd yn dangos y realiti sy'n wynebu plant a phobl ifanc ar draws y DU yn ogystal â pherfformiadau arbennig.
Ddydd Gwener, fe wnaeth y darlledwr Owain Wyn Evans gwblhau ei her feicio ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, gan godi cyfanswm o £4.7 miliwn ar gyfer Plant Mewn Angen.
Fe gafodd y cyfanswm ei gyhoeddi yn ystod rhaglen fyw nos Wener, wedi iddo gwblhau ei her.
Fe gyrhaeddodd y cyflwynydd o Rydaman y llinell derfyn y tu allan i'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd ddydd Gwener, ar ôl beicio bron i 400 milltir drwy'r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru mewn pum niwrnod.
Cafodd groeso mawr gan ei deulu, ei ffrindiau a'i gefnogwyr wrth iddo groesi'r llinell derfyn.
Dyma'r pellter hiraf i gael ei gyflawni fel rhan o her codi arian Radio 2 y BBC.
Dywedodd prif weithredwr BBC Children in Need Claire Hoyle: "Mae'r noson hon wedi bod yn atgof pwerus o'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud pan yrydyn ni'n dod at ein gilydd.
"Ledled y DU, mae gormod o blant a phobl ifanc yn wynebu cyfnodau anodd heb y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Diolch i haelioni anhygoel ein cefnogwyr, bydd mwy o blant yn cael rhywun wrth eu hochr pan fyddant ei angen fwyaf.
"Gallai hynny fod yn weithiwr ieuenctid sy'n parhau i fod yno iddynt, yn oedolyn dibynadwy sy'n gwrando, neu ardal lle maent yn teimlo'n ddiogel, yn cael cefnogaeth, ac yn gallu ffynnu."