Apêl o’r newydd am wybodaeth am ddyn a ddiflannodd dros 12 mlynedd yn ôl
Mae Heddlu Gwent wedi gwneud apêl o'r newydd am wybodaeth am ddyn o Sir Caerffili a ddiflannodd dros 12 mlynedd a hanner yn ôl.
I nodi ei ben-blwydd yn 38 yn oed, dywedodd y llu eu bod nhw’n dal i ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd i Kyle Vaughan.
Roedd yn gyrru car Peugeot 306 arian oedd mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A467 rhwng Phont-y-cymer a Rhisga ar 30 Rhagfyr 2012.
Y tro diwethaf i’r dyn o Drecelyn, a oedd yn 24 oed ar y pryd, gael ei weld oedd tua 23:45 y diwrnod hwnnw.
Cafodd ymchwiliad person coll ei lansio a ddaeth wedyn yn ymchwiliad llofruddiaeth, gan arwain at arestio wyth o bobl mewn cysylltiad â diflaniad Kyle.
Yn ddiweddarach, cafodd pob un o'r wyth person eu rhyddhau heb eu cyhuddo.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Andrew Tuck, yr uwch swyddog ymchwilio: “Mae ein hymchwiliad i’r hyn a ddigwyddodd i Kyle cyn ei ddiflaniad yn un o’r ymchwiliadau mwyaf helaeth i ni ei gynnal erioed.
“Mae ditectifs sy’n gweithio yn ein tîm digwyddiadau mawr yn parhau i ymchwilio i unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei chael gan y cyhoedd mewn cysylltiad â Kyle, cyn ac ar ôl iddo gael ei weld ddiwethaf.
“Rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â theulu Kyle ac maen nhw’n dal i obeithio y byddan nhw’n cael gwybod beth ddigwyddodd iddo. Byddwn yn dilyn unrhyw linellau ymchwilio er mwyn ceisio ateb y cwestiynau sydd gan ei deulu o hyd.
"Gofynnaf yn daer ar aelodau’r cyhoedd i gysylltu â ni gydag unrhyw fanylion sydd ganddyn nhw. Gall y manylion lleiaf gynorthwyo ein hymchwiliad, felly da chi, cysylltwch â ni."
Maen nhw’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o gymorth i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 397 30/12/12.
Llun: Heddlu Gwent