A yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru newydd selio ffawd llywydd dadleuol FIFA?
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi na fydd hi'n cefnogi camau llywydd dadleuol FIFA, Gianni Infantino, i gael ei ail-ethol - y gymdeithas bêl-droed gyntaf i wneud hynny.
Fe allai'r penderfyniad arwain at doreth o wledydd yn dewis dilyn trywydd Cymru gan ychwanegu pwysau ar Infantino i ymddiswyddo neu roi'r gorau i'w gais i gael ei ail-ethol.
Mae Gianni Infantino wedi tynnu nyth cacwn i'w ben ar ôl iddo gyhoeddi ei fwriad i werthu cyfran o hawliau rhai o brif gystadleuthau FIFA i fuddsoddwyr. Roedd hyn yn cynnwys Cwpan y Byd y dynion a'r menywod.
Cafodd y syniad yma ei feirniadu'n hallt gan gymdeithasau pêl-droed ar draws y byd. Fe wnaeth Infantino dro pedol ar y cynnig ddiwedd wythnos diwethaf.
Roedd wedi cynnig £40m i bob un o'r 211 o gymdeithasau pêl-droed rhyngwladol sydd yn rhan o FIFA i gefnogi ei gynllun.
Fe wnaeth y corff sydd yn cynrychioli gwledydd Ewrop, UEFA, fygwth tynnu'r gwledydd hynny allan o Gwpan y Byd mewn protest.
Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) yw'r gyntaf o holl gymdeithasau pêl-droed y byd i gyhoeddi nad yw hi'n bwriadu cefnogi cais Infantino i gael ei ail-ethol.
Ei obaith yw arwain FIFA am dymor arall rhwng 2027 a 2031. Mae wedi bod wrth y llyw ers degawd yn FIFA bellach.
Mewn datganiad i Sky News, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod yn "cadarnhau drwy hyn ei fod yn tynnu ei chefnogaeth yn ôl oddi wrth gais Mr Gianni Infantino i gael ei ail-ethol yn Llywydd FIFA ar gyfer y cyfnod 2027-2031".
"Mae'r methiannau diweddar o ran llywodraethu da, prosesau, arweinyddiaeth, gwerthoedd, rheoli rhanddeiliaid, cyfathrebu a barn gadarn wedi ein harwain i sefyllfa lle mae Mr Infantino wedi colli hyder CBDC i barhau wrth y llyw ym myd pêl-droed byd-eang.
"Mae methu â rhoi buddiannau gorau pêl-droed yn gyntaf yn fethiant na allwn ei dderbyn."
Beirniadaeth
Roedd beirniadaeth eang o gynllun Infantino i werthu cyfran o hawliau cystadlaethau FIFA. Fe wnaeth UEFA groesawu'r newyddion ei fod wedi gwneud tro pedol ddydd Gwener.
Mewn datganiad, dywedodd UEFA eu bod yn "croesawu penderfyniad FIFA i dynnu ei chynllun i werthu cyfran yn ei chystadlaethau - gan gynnwys Cwpan y Byd - i ddwylo preifat yn ôl.
"Nid yn unig y mae arweinyddiaeth bresennol FIFA wedi colli hyder UEFA ond hefyd hyder llawer o aelodau eraill o deulu pêl-droed.
"Bydd UEFA yn dechrau gweithio ar unwaith gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ledled y byd ac ar draws y gêm i gynnig ffordd newydd o ddosbarthu adnoddau trwy'r rhaglen FIFA bresennol.
"Mae hon yn fuddugoliaeth i'r gêm gyfan. Ond ni ddylai fod yn ddiwedd y stori. Mae'r cynnig wedi mynd. Dim ond newydd ddechrau y mae'r dasg o ailadeiladu ymddiriedaeth yn FIFA."