Tafod Glas: Annog ffermwyr i wirio am symptomau wrth i achosion gynyddu

Gwartheg

Mae ffermwyr wedi eu hannog i wirio am symptomau o’r Tafod Glas (BTV-3), wrth i achosion barhau i gynyddu yng Nghymru a Lloegr.

Ers Gorffennaf 1, mae tri achos o'r haint wedi’u cadarnhau yng Nghymru tra bod 81 achos wedi’u cadarnhau yn Lloegr, gyda rhai achosion yn agos i’r ffin yn Sir Caer, Gwlad yr Haf a Dyfnaint.

Gall da byw symud yn rhydd rhwng Cymru a Lloegr ers i'r Parth Cyfyngedig Cymru Gyfan gael ei sefydlu ym mis Tachwedd 2025, felly mae’r Llywodraeth yn galw ar amaethwyr i wirio statws Tafod Glas anifeiliaid cyn eu prynu neu eu symud.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: "Rydyn ni bellach yn y cyfnod trosglwyddo gweithredol ar gyfer y Tafod Glas, ac mae rhagor o achosion o BTV-3 mewn gwartheg a defaid yn dod i'r amlwg mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ogystal ag yn Lloegr, yn enwedig siroedd y de-orllewin. 

"Mae prynu da byw o ffynonellau diogel yn hanfodol. Cynghorir ceidwaid i ystyried statws Tafod Glas da byw newydd, fel nad ydych yn prynu rhywbeth annymunol.   

"Mae'n parhau i fod yn bwysig i geidwaid da byw siarad â'u milfeddyg ac ystyried brechu rhag y Tafod Glas, gan mai dyma'r ffordd orau o amddiffyn buchesi a diadelloedd rhag effeithiau'r clefyd. 

“Byddwch ar eich gwyliadwriaeth am arwyddion o'r Tafod Glas a rhoi gwybod i APHA yn brydlon am unrhyw achosion posibl." 

Mae ffermwyr wedi’u hannog i wirio am arwyddion o'r Tafod Glas, i roi gwybod am unrhyw achosion posibl i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac i ystyried brechu, wrth i ragor o achosion o BTV-3 gael eu cadarnhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.