Gyrwyr yn dwyn bron i £200,000 o danwydd y dydd ers dechrau argyfwng olew Iran

Petrol - Erik McLean - Unsplash

Mae gyrwyr wedi dwyn gwerth bron i £200,000 o danwydd y dydd ar gyfartaledd o orsafoedd tanwydd y DU ers dechrau argyfwng olew Iran.

Dywedodd y cwmni atal dwyn tanwydd, Forecourt Eye, fod nifer y digwyddiadau lle cymerwyd tanwydd heb dalu wedi codi 20% yn y pum mis ar ôl i'r gwrthdaro ddechrau ar 28 Chwefror, o'i gymharu â'r pum mis blaenorol.

Mae'r cynnydd ym mhrisiau tanwydd a achoswyd gan y rhyfel yn golygu bod gwerth y tanwydd gafodd ei ddwyn wedi codi 48% yn yr un cyfnod, gan gyrraedd cyfartaledd dyddiol o £194,000 ar draws 8,359 o orsafoedd tanwydd y DU.

Ymhlith y rhai oedd wedi troseddu am y tro cyntaf, cafwyd cynnydd o 23% yn nifer y digwyddiadau a chynnydd o 26% yng ngwerth y tanwydd oedd wedi ei ddwyn.

Mae'r ffigyrau'n seiliedig ar adroddiadau gan sampl o 550 o orsafoedd tanwydd.

Maent yn cynnwys achosion lle mae gyrwyr yn gyrru i ffwrdd heb dalu, ac achosion lle nad oes modd talu - pan fydd cwsmer yn llenwi'r tanc ac yn honni nad oes ganddo unrhyw ffordd o dalu.

Cododd pris cyfartalog litr o betrol i 160c ddydd Gwener.

Roedd hynny tua 27c yn uwch na'r hyn yr oedd cyn y gwrthdaro, ac yn cynrychioli'r lefel uchaf ers tair blynedd a hanner.

Mae pris cyfartalog disel tua 37c y litr yn uwch na'r pris cyn y rhyfel, sef 179c.

Dywedodd Gordon Balmer, cyfarwyddwr gweithredol y Gymdeithas Gwerthwyr Petrol, sy'n cynrychioli gorsafoedd petrol annibynnol, bod ei aelodau’n “adrodd am lefelau cynyddol o gamdriniaeth ac ymddygiad ymosodol tuag at gydweithwyr sy’n ceisio gwneud eu gwaith ac nad oes ganddynt unrhyw ddylanwad ar y pris sy’n cael ei arddangos ar y safle”.

Ychwanegodd: “Mae dod â thechnolegau sy’n helpu manwerthwyr i atal troseddau, rheoli digwyddiadau a chefnogi ymchwiliadau’r heddlu at ei gilydd yn gam cadarnhaol i’r diwydiant.”

 
 
 
 
 
 


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.