Awgrym gan Donald Trump o drafodaethau heddwch newydd gydag Iran

Donald Trump

Bydd trafodaethau heddwch newydd yn cychwyn ddydd Llun gydag Iran medd Arlywydd yr UDA, Donald Trump.

Dywedodd ei fod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen gydag ymosodiad 'anferth' ar y wlad ar ôl i Iran a chynghreiriaid yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol ofyn iddo beidio. 

Ychwanegodd fod prif amlinelliad cytundeb wedi ei gytuno. 

Mae Mr Trump wedi dweud sawl gwaith o'r blaen bod yr UDA ac Iran yn agos at gyrraedd y pwynt o drafod diwedd i'r rhyfel ond yna mae'r ymosodiadau rhwng y ddwy wlad wedi ail ddechrau'n ddiweddarach. 

Dyw Iran ddim eto wedi ymateb i sylwadau diweddaraf Donald Trump. 

Wrth siarad gyda newyddiadurwyr ddydd Sul ni wnaeth yr Arlywydd osod amserlen ar gyfer unrhyw gytundeb newydd. 

"Cawn weld sut fydd pethau. Rydyn ni'n barod i weithredu unrhyw bryd rydyn ni eisiau... Dydw i ddim yn edrych i ladd pobl," meddai. 

Ychwanegodd fod Tywysog Coronog Saudi Arabia a chynghreiriaid eraill yr Unol Daleithiau wedi ei annog i beidio â chynnal ymosodiadau yn ystod y penwythnos. 

"Y rheswm wnaethon nhw ofyn i ni oedd eu bod nhw yn meddwl fod yna gytundeb. Mae cytundeb ar Hormuz ac fe fydd yna gytundeb ar niwclear," meddai. 

Mae asiantaeth newyddion lled-swyddogol Iran, Mehr, wedi gwadu bod Tehran wedi gofyn i'r Unol Daleithiau ohirio unrhyw gamau milwrol pellach. 

"Dim byd ond celwydd newydd" yw honiadau Mr Trump meddai llefarydd ar eu rhan.  

Ddydd Sul, dywedodd Gweinidog Tramor Iran, Abbas Araghchi, fod y trafodaethau gydag Oman ynghylch cytundeb ar Gulfor Hormuz "ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau", yn ôl cyfryngau Iran.

Hyd yn hyn dyw Donald Trump ddim wedi egluro ble y bydd y trafodaethau'n cael eu cynnal ddydd Llun, nac ychwaith pwy fydd yn bresennol.

 
 
 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.