Angen gwaith 'atgyweirio sylweddol' yn dilyn llifogydd Gwaelod-y-garth
Mae angen gwneud gwaith 'atgyweirio sylweddol' i ffordd yn dilyn y llifogydd yng Ngwaelod-y-garth yr wythnos diwethaf, meddai Cyngor Caerdydd.
Mae Heol Goch, y tu hwnt i’r gyffordd â Clos Goch wrth deithio allan o Bentyrch, yn parhau ar gau i gerbydau, cerddwyr a beicwyr.
Mae modurwyr yn cael eu cynghori i ddilyn yr arwyddion gwyriad traffig.
Dywedodd Cyngor Caerdydd mewn datganiad: “Mae asesiad o’r ffordd wedi’i gynnal ac mae angen gwneud gwaith atgyweirio sylweddol.
“Mae’r llethr wrth ochr y ffordd yn y lleoliad hwn hefyd yn cael ei asesu’n annibynnol ac mae angen cadarnhau ei fod yn ddiogel cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud ynghylch ailagor y ffordd.”
Mae’r gwaith glanhau yn parhau, gyda cherbydau glanhau strydoedd yn gweithio yn yr ardal.
“Mae angen clirio’r holl gwteri draenio cyn i gam nesaf y gwaith glanhau ddechrau,” ychwanegodd y cyngor.
"Bydd hyn yn cynnwys golchi’r ffyrdd a’r palmentydd a gafodd eu heffeithio â jetiau dŵr er mwyn sicrhau eu bod mor lân ac mor glir â phosib i’r cyhoedd eu defnyddio."
Cafodd 15 eiddo eu heffeithio gan y llifogydd ddydd Iau, a chafodd trigolion 13 eiddo eu symud o’u cartrefi gan y gwasanaeth tân.
Daeth adroddiadau am y llifogydd ar ôl digwyddiad yn Chwarel Ffynnon Taf, sy’n cael ei rhedeg gan gwmni Breedon Group.
Mae ymchwiliad amlasiantaeth yn cael ei gynnal i ddeall yn union beth ddigwyddodd.