Aberteifi: Prif Weithredwr y Mwldan yn ymddeol wedi 33 o flynyddoedd
Mae Prif Swyddog Gweithredol y Mwldan wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol wedi 33 mlynedd o arwain y ganolfan gelfyddydol yn Aberteifi.
Dywedodd Dilwyn Davies ei bod wedi bod yn “fraint aruthrol i wasanaethu fel Prif Swyddog Gweithredol a’i fod yn edrych ymlaen “at weld y Mwldan i barhau i ffynnu”.
Mae'r Mwldan yn ganolfan gelfyddydol a sinema amlbwrpas yn Aberteifi.
Sefydlwyd Theatr y Mwldan yn wreiddiol yn 1983 ac mae wedi datblygu i ddarparu perfformiadau thetrig, sinema a digwyddiadau ers hynny.
Dywedodd Mwldan fod “ymrwymiad diysgog” Dilwyn Davies “nid yn unig wedi cyfoethogi tirwedd ddiwylliannol Gorllewin Cymru ond hefyd wedi dyrchafu'r Mwldan i fod yn lleoliad rhyngwladol enwog ar gyfer y celfyddydau, sinema a chynyrchiadau teithiol”.
Fe fydd yn ymddeol o’i swydd yn Ionawr 2027 ac mae Mwldan wedi cychwyn ar y broses o ddod o hyd i’w olynydd.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, ychwanegodd y Mwldan: “Bydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y Mwldan yn dechrau chwilio am olynydd sy'n ymgorffori ein hymrwymiad i ragoriaeth artistig ac ymgysylltu â'r gymuned.
“O dan arweiniad gweledigaethol Dilwyn, mae Mwldan wedi ymestyn i dros 250,000 o bobl yn flynyddol, gan gynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, o ddangosiadau ffilmiau i wyliau ar raddfa fawr.”
Sefydlwyd Theatr Mwldan yn 1983 gan Theatr Aberteifi, cwmni drama amatur lleol, a wnaeth ddechrau prosiect i drawsnewid lladd-dy segur y dref yn theatr gymunedol.
Cwblhawyd Prosiect Datblygu Theatr Mwldan ym mis Mehefin 2004 “i ehangu yr ystod o gyfleusterau sydd ar gael, lefel y gweithgarwch ac ansawdd profiad ei chwsmeriaid”.
Roedd y datblygiad yn cynnwys dwy awditoria theatr/sinema, stiwdio ymarfer, lle arddangos celfyddydau gweledol a diweddaru cyfleusterau blaen tŷ ac arlwyo