Newyddion S4C

Ymweliad y Brenin Charles yn 'gwneud cam â Chymru'

16/09/2022

Ymweliad y Brenin Charles yn 'gwneud cam â Chymru'

Dydd Gwener yw diwrnod ymweliad cyntaf Brenin Charles III ers dod yn Frenin a throsglwyddo rôl Tywysog Cymru i’w fab y Tywysog William, yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II.

Ond nid pawb sy’n edrych ymlaen at yr ymweliad Brenhinol yng Nghaerdydd, ar ddiwrnod sy'n nodi dechrau gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1400.

Yn ôl un gweriniaethwr mae’r ymweliad yn “gwneud cam â Chymru.”

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Adam Phillips, cyn-brif weithredwr mudiad Balchder Cymru: “Dio ddim yn Frenin i mi, dwi yn Gymro a Brenin Lloegr ydi o. Dwi’n meddwl bo’ nhw wedi neud cam â Chymru wrth ymweld ar ddiwrnod Glyndŵr.

“Mae o yn dangos bod nhw ddim yn gwybod am hanes Cymru a ddim yn gwybod am y diwrnod, ac mae hynny yn amharchus. Bad judgement ar ei rhan nhw."

Image
S4C
Dyw Adam Phillips ddim yn croesawu'r ymweliad Brenhinol. 

Yn ôl Mr Phillips mae yna “dri gwahanol fath o bobl” sydd yn derbyn ymweliad Y Brenin Charles.

“Y bobl sydd ddim yn gwybod eu hanes, sydd ddim wedi cael eu haddysgu am hanes Cymru. Yn ail, Y Prydeinwyr sydd wedi dod i Gymru ac wedi dod a’u Prydeindod gyda nhw. Ac yn olaf y crachach sydd isio bod yn ddarn o’r establishment.

"Felly fydd y bobl yno yn hapus. Ond fe wnaeth fy mam i fy nysgu am Glyndŵr, Llywelyn, Arthur a Hywel Dda. Ma’ gennai hanes, ond maen nhw wedi rhoi eu hanes nhw arnom ni."  

Yn ystod ymweliad Y Brenin Charles fydd Mr Phillips yn gorymdeithio i gofio am Owain Glyndŵr yng Nghorwen a gwneud ei orau i anghofio am yr ymweliad Brenhinol.

“Byddai’n cofio Glyndŵr ac yn cofio hanes Cymru fel cenedl ac nid dathlu'r rheiny sydd wedi ein concro ni."

Er bod Mr Philips yn weriniaethwr angerddol, mae’n dweud ei fod wedi dangos parch i’r rhai sydd ddim yn rhannu’r un farn.

“Nes i ddangos parch yn ystod gêm (pêl-droed) Wrecsam, dwi ‘di dangos parch at fy ffrindiau sydd yn royalist a dwi’n teimlo sori drostyn nhw am eu bod nhw’n drist. Ond fyddai ddim yn gwylio dim o honno fo.

Dwi’n meddwl bod y rhan fwyaf o bobl sydd am fod yna i groesawu ymweliad y Brenin yn dilyn y media a’r ffys, a does ganddyn nhw ddim syniad am hanes Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.