Newyddion S4C

Cynnal angladd y Frenhines Elizabeth II yn Llundain

19/09/2022

Cynnal angladd y Frenhines Elizabeth II yn Llundain

Mae angladd y Frenhines Elizabeth II wedi cael ei gynnal yn Llundain ddydd Llun.

Bu farw'r Frenhines Elizabeth ar ddydd Iau, 8 Medi, yn 96 oed.

Ers pedwar diwrnod, mae miloedd o bobl wedi tyrru i Neuadd Westminster i weld arch y Frenhines, gyda nifer yn sefyll mewn llinell dros nos ac am gyfnodau o hyd at 24 awr.

Ond fe ddaeth ymweliadau'r cyhoedd ag arch y Frenhines i ben am 6:30 fore Llun ar doriad gwawr ar ddiwrnod yr angladd.

Dyma'r angladd gwladol cyntaf i gael ei gynnal yn y Deyrnas Unedig ers 1965 pan gafodd Syr Winston Churchill yr anrhydedd sydd fel rheol ond ar gyfer y sofran.

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi Gŵyl y Banc ddydd Llun i nodi diwrnod angladd y Frenhines Elizabeth II

Mae diwrnod yr angladd yn dod â 10 diwrnod o alaru i ben.

Fe wnaeth prif weinidog Cymru, Mark Drakeford fynychu'r angladd a dywedodd fod ei "feddyliau gyda'r Brenin Charles III a'r teulu brenhinol wrth iddynt gofio am ei bywyd nodedig a'i holl flynyddoedd o wasanaeth."

Arweinwyr y byd

Fe wnaeth tua 500 o arweinwyr neu wleidyddion fynychu’r angladd, ymysg 2000 o westeion. 

Roedd Liz Truss, prif weinidog y DU yn bresennol, yn ogystal ag arweinydd y blaid Lafur, Syr Keir Starmer.

Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin a’r Arlywydd Michael D Higgins a Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon yno hefyd.

Fe wnaeth Arlywydd yr UDA Joe Biden fynychu hefyd gyda’i wraig, Jill Biden.

Oherwydd y nifer fawr o bobl oedd yn Abaty Westminster, dim ond un cynrychiolydd blaenllaw o bob gwlad a’u partner oedd yn cael mynychu. 

Roedd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, Arlywydd yr Almaen Frank-Walter Steinmeier ac Arlywydd yr Eidal Sergio Mattarella hefyd ymhlith yr arweinwyr Ewropeaidd oedd yn yr angladd.

Roedd Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen hefyd yn bresennol.

Ymhlith arweinwyr eraill oedd yno oedd Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern, Prif Weinidog Awstralia Anthony Albanese a Llywodraethwr Cyffredinol Awstralia David Hurley, Arlywydd De Corea Yoon Suk-Yeol, Arlywydd Brasil Jair Bolsonaro, ac Arlywydd India, Droupadi Murmu.

Image
S4C

Yn dilyn y gwasanaeth cafodd yr arch ei chludo mewn gorymdaith i Golofn Wellington. 

Yna teithiodd arch y Frenhines a'r Teulu Brenhinol i Windsor ar gyfer y seremoni draddodi, gyda'r hers gwladol yn gyrru'n araf ar hyn y lôn tuag at Gapel San Siôr.

Cafodd y gwasanaeth yno ei ffrydio'n fyw ar deledu o'r capel gan ddechrau am 16:00, yng ngofal Deon Windsor.

Cafodd diwedd y gwasanaeth ei nodi gyda galarnad yn cael ei chwarae gan bibydd y Frenhines.

Image
S4C
 Arch y Frenhines yn cael ei chludo mewn gorymdaith i Golofn Wellington.

Y tu hwnt i olwg y cyhoedd, cafodd corff y Frenhines ei osod yn y gladdgell frenhinol, sef siambr o dan yr eglwys.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.