Newyddion S4C

Beiro yn achosi i'r Brenin regi

Newyddion S4C 14/09/2022

Beiro yn achosi i'r Brenin regi

Fe gafodd y Brenin Charles III ei weld yn mynegi ei rwystredigaeth drwy regi, wrth geisio defnyddio beiro yn ystod seremoni yng Ngogledd Iwerddon ddydd Mawrth. 

Roedd y Brenin newydd yn arwyddo llyfr ymwelwyr yng nghastell Hillsborough ger Belfast, wrth iddo ymweld â'r wlad yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II. 

"Oh god I hate this [pen]," dywedodd y Brenin wrth geisio ysgrifennu, wedi i inc o'r feiro ollwng dros ei ddwylo. 

"I can’t bear this bloody thing … every stinking time,” rhegodd wrth roi'r feiro i'r Frenhines Gydweddog Camilla. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.