Trefi yn nwyrain Wcráin yn blasu rhyddid newydd

Mae trigolion mewn cymunedau yn nwyrain Wcráin wedi bod yn rhannu eu profiadau o fod dan reolaeth lluoedd Rwsia, ar ôl blasu rhyddid am y tro cyntaf mewn misoedd.
Yn dilyn gwrthymosodiad chwim ac annisgwyl gan luoedd Wcráin yn rhanbarth Kharkiv dros yr wythnos ddiwethaf, mae pobl wedi disgrifio'r hyn ddigwyddodd yn ystod y cyfnod pan roedd byddin Rwsia'n rheoli eu cymunedau ers dechrau'r rhyfel.
Yn nhref Balakliia mae adroddiadau fod lluoedd Rwsia wedi defnyddio gorsaf heddlu'r dref fel canolfan arteithio.
Dywedodd eraill yn y dref wrth The Guardian mai llugoer oedd agwedd milwyr ifanc Rwsia at eu hymgyrch filwrol eu hunain yn Wcráin.
Roedd y dref yn ganolfan strategol bwysig i fyddin Rwsia, sydd wedi ildio 6,000 km sgwâr ers i luoedd Wcráin wrthymosod.
Darllenwch ragor yma.