Arch y Frenhines Elizabeth II wedi cyrraedd Palas Buckingham
Arch y Frenhines Elizabeth II wedi cyrraedd Palas Buckingham
Mae arch y Frenhines Elizabeth II wedi cyrraedd Palas Buckingham yn Llundain, ar ôl gadael yr Alban yn hwyr brynhawn Mawrth.
Fe wnaeth yr arch gyrraedd ychydig o funudau wedi 20:00 gyda'r dorf yn cymeradwyo wrth i'r car deithio trwy'r gatiau.
Roedd y Brenin Charles III, y Frenhines Gydweddog Camilla ac aelodau eraill y teulu brenhinol eisoes yn y palas.
Bydd yr arch yn aros ym Mhalas Buckingham heno, cyn cael ei chludo i Neuadd Westminster bore fory lle bydd y Frenhines Elizabeth II yn gorffwys am bedwar diwrnod.
Fe ymwelodd dros 26,000 o bobl â Chadeirlan St Giles yng Nghaeredin, lle bu arch y Frenhines ddydd Llun hyd at brynhawn Mawrth.
Ymhlith y miloedd, roedd y Gymraes Elaine Rowlands sy'n byw yn yr Alban. Dywedodd fod y profiad yn hynod o emosiynol.
"Dach chi'n disgwyl iddi fyw am byth mewn ffor', "meddai.
"So mae'n anodd. Ond dwi'n meddwl bod hi'n braf mewn ffordd bod pobl yr Alban 'di cael ei cyfle nhw i ddweud ta ta "
Cafodd yr arch ei chludo o'r gadeirlan i Faes Awyr Caeredin yn hwyr y prynhawn, a bydd hi'n teithio i Balas Buckingham yn gyntaf, gan aros yno dros nos.
Ddydd Mercher, bydd yr arch yn cael ei chludo i Neuadd Westminster, a bydd y ddiweddar Frenhines yn gorwedd yno am bedwar diwrnod, gyda chyfle i'r cyhoedd ymweld â'r safle.
Mae'r Brenin Charles III bellach wedi dychwelyd i Balas Buckingham yn Llundain, ar ol treulio'r diwrnod yng Ngogledd Iwerddon, yn rhan o'i daith o amgylch gwledydd Y Deyrnas Unedig.
Yng nghwmni'r Frenhines Gydweddog, glaniodd ym maes awyr Belfast ben bore, cyn teithio i Gastell Hillsborough.
Fe gyfarfu'r Brenin ag Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon ac arweinwyr y pleidiau yno, cyn ymuno â gwasanaeth yng Nghadeirlan Santes Anne yn Belfast.