Cyhuddo dyn o lofruddio dyn 44 oed yng Nghasnewydd
12/09/2022
Heddlu.
Mae Heddlu Gwent wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn yn ardal Casnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ddydd Mercher 31 Awst yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi'i ddarganfod yn anymwybodol mewn eiddo yn Tewkesbury Walk.
Cafodd y dyn 44 oed ei gludo i'r ysbyty lle fu farw o'i anafiadau.
Mae dyn 33 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth. Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.