Y byd gwleidyddol yn cofio'r Frenhines Elizabeth II
Y byd gwleidyddol yn cofio'r Frenhines Elizabeth II
Mae arweinwyr o'r byd gwleidyddol wedi rhoi teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II, yn dilyn ei marwolaeth yn 96 oed.
Yn siarad tu allan i rif 10 Downing Street, dywedodd y prif weinidog Liz Truss fod y Frenhines yn y "sylfaen Prydain fodern."
"Mae ein gwlad wedi tyfu a ffynnu o dan ei theyrnasiad. Mae Prydain yn wlad arbennig o'i hachos hi.
"Hi oedd ysbryd Prydain Fawr, a bydd yr ysbryd hwnnw yn dyfalbarhau."
"Mae’n llwyddiant anhygoel i deyrnasu gydag urddas ac anrhydedd am 70 mlynedd. Fe wnaeth ei bywyd o wasanaeth ymestyn yn hirach na rhan fwyaf o’n bywydau."
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, fod y genedl yn rhannu galar y Teulu Brenhinol.
“Fe fyddwn yn trysori bywyd o wasanaeth Elizabeth II a’i hymroddiad i’n cenedl a’r Gymanwlad am byth.
“Am 70 mlynedd fe wnaeth y Frenhines Elizabeth II sefyll fel pennaeth ein gwladwriaeth. Ond mewn ysbryd, roedd hi’n sefyll yn ein mysg i gyd.”
Ymateb o Gymru
Yng Nghymru, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod y Frenhines wedi cynnal traddodiadau a gwerthoedd y teulu Brenhinol yn ystod ei theyrnasiad hir.
“Hoffem dalu teyrngerd i ymroddiad diflino ac anhunanol Ei Mawrhydi.
“Bydd hon yn golled fawr i’r holl sefydliadau a oedd dan ei nawdd neu ei llywyddiaeth hi.”
Hynod o drist clywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) September 8, 2022
Fel y Frenhines a deyrnasodd hiraf, cynhaliodd werthoedd a thraddodiadau teulu Brenhinol Prydain.
Ar ran pobl Cymru estynnaf ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Ei Mawrhydi ar yr adeg drist hon. pic.twitter.com/bzS2RpAFcP
Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones, fod y Frenhines wedi gwasanaethau "gydag urddas a enynnodd barch miliynau o bobl o bob cwr o'r byd.
"Bydd y Frenhines yn cael ei chofio am ei hymrwymiad gydol oes i wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys hyrwyddo llawer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru."
Wrth roi teyrngerd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod teyrnasiad y Frenhines wedi “gweld cyfnod o newid aruthrol i Gymru.
“Caiff ei chofio fel ffigwr a ddarparodd sefydlogrwydd yn ystod adegau o argyfwng, ynghyd a'i synnwyr o ddyletswydd ddofn.”
Yn Yr Alban, dywedodd prif weinidog y wlad, Nicola Sturgeon, fod marwolaeth y Frenhines yn foment “hynod o drist” i’r DU, i'r Gymanwlad a’r byd.
“Roedd ei bywyd yn un llawn ymroddiad a gwasanaeth eithriadol.”
Dywedodd Jeffrey Donaldson, arweinydd y DUP yng Ngogledd Iwerddon, fod y Frenhines wedi bod yn bennaeth "cadarn ac ansigladwy" ar wladwriaeth Prydain a'r Gymanwlad.
"Heddiw rydym yn galaru marwolaeth Ei Mawrhydi, ond rydym yn gwneud hyn gydag anrhydedd aruthrol i rywun wnaeth wasanaethu Duw a'i phobl yn ffyddlon."