Chelsea yn penodi Graham Potter fel prif hyfforddwr newydd
Mae clwb pêl-droed Chelsea wedi penodi Graham Potter fel eu prif hyfforddwr newydd.
Daw'r penodiad wedi i'r clwb ddiswyddo Thomas Tuchel ddydd Mercher yn dilyn dechreuad siomedig i'r tymor.
Mae Potter wedi denu sylw yn dilyn ei waith gyda Brighton & Hove Albion, sydd yn bedwerydd yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd, tri phwynt o flaen Chelsea.
Chelsea Football Club is delighted to welcome Graham Potter as our new Head Coach! 🤝
— Chelsea FC (@ChelseaFC) September 8, 2022
Fe wnaeth Potter arwain y Gwylanod i'w tymor gorau erioed yn yr Uwch Gynghrair y llynedd, gan orffen yn nawfed yn y tabl.
Cyn hynny, roedd Potter wrth y llyw yn Abertawe, pan lwyddodd i arwain yr Elyrch i rownd go-gynderfynol Tlws yr FA.
Mae'n ymuno gyda chlwb Chelsea gyda disgwyliadau mawr wedi iddynt wario'r swm uchaf o unrhyw glwb yn y byd yn ystod y ffenestr drosglwyddo ddiwethaf.
Llun: Asiantaeth Lluniau Huw Evans