Newyddion S4C

Gweithwyr y Post Brenhinol i fynd ar streic eto

07/09/2022
Post Brenhinol

Bydd gweithwyr y Post Brenhinol yn mynd ar streic am 48 awr ddiwedd mis Medi yn sgil anfodlonrwydd am eu tâl. 

Bydd oddeutu 115,000 o weithwyr yn mynd ar streic ar ddydd Iau 30 Medi a dydd Gwener 1 Hydref yn dilyn streic debyg fis diwethaf.

Dywedodd y Post Brenhinol bod y streiciau wedi gwanhau eu sefyllfa ariannol, ac maent eisioes wedi datgan  fod y busnes yn colli £1m y diwrnod. 

Mewn datganiad, dywedodd y Post bod gweithredoedd Undeb Y Gweithwyr Cyfathrebu yn "ein harwain ar lwybr peryg."

Darllenwch ragor yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.