Liz Truss yn cyhoeddi capio biliau ynni ar £2,500 y flwyddyn
Liz Truss yn cyhoeddi capio biliau ynni ar £2,500 y flwyddyn
Mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gapio biliau ynni cyfartalog cartrefi ar £2,500 y flwyddyn o fis Hydref ymlaen.
Fe gyhoeddodd Liz Truss y bydd y gefnogaeth yn para am ddwy flynedd gan ddweud mai "dyma'r foment i fod yn fentrus".
Roedd disgwyl i filiau cyfartalog nwy a thrydan godi o £1,971 i £3,549 mewn cartrefi ym mis Hydref.
Fe fydd busnesau hefyd yn cael pecyn cymorth am chwe mis a fydd yn darparu "cymorth cyfatebol".
Ar ôl y cyfnod o chwe mis, bydd cymorth pellach yn cael ei dargedu at "ddiwydiannau bregus", meddai Truss.
Dywedodd y Prif Weinidog ni fydd y polisi yn cael ei ariannu gan dreth ffawdelw.
Fe fydd y cap newydd yn dod yn ogystal â'r taliadau o £400 y bydd cartrefi yn derbyn fel rhan o gynlluniau cafodd eu cyhoeddi gan y cyn-Ganghellor Rishi Sunak.
Mae'r llywodraeth hefyd yn codi'r gwaharddiad ar ffracio - sy'n golygu tynnu nwy ac olew o graig siâl.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, mai syniad ei blaid o oedd rhewi prisiau ynni a bod Prydain yng nghanol argyfwng ynni ar hyn o bryd.
Ychwanegodd ei fod yn falch fod yr egwyddor o osod cap ar brisiau wedi ei dderbyn ond nad oedd hyn yn beth rhad i'w weithredu.
Dywedodd mai'r cwestiwn mawr yr oedd yn wynebu'r llywodraeth wrth wneud y cyhoeddiad yn San Steffan ddydd Iau oedd "pwy fyddai'n talu" am weithredu'r fath gynllun?
"Fe fydd canlyniadau hyn yn cael eu hysgwyddo gan weithwyr cyffredin", ychwanegodd.