Ryan Giggs i wynebu achos llys arall ym mis Gorffennaf

Fe fydd y cyn-chwaraewr pêl-droed, Ryan Giggs yn wynebu achos llys arall ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, wedi i'r rheithgor fethu dod i benderfyniad yn yr achos yn ei erbyn.
Roedd Mr Giggs yn gwadu ymosod ar ei gyn-gariad, Kate Greville a'i chwaer Emma Greville, ac hefyd wedi gwadu cyhuddiad o reoli Kate Greville drwy orfodaeth.
Fe fydd Mr Giggs wedi bod ar fechnïaeth am ddwy flynedd a hanner erbyn yr achos llys flwyddyn nesaf yn Llys y Goron Manceinion.
Nid oedd MrGiggs yn bresennol yn y llys ddydd Mercher pan gadarnhaodd yr erlynydd, Peter Wright QC, y bydd achos newydd yn cael ei gyflwyno ymhen 10 mis.
Darllenwch ragor yma.