Pedwar gafodd eu harestio yn achos Olivia Pratt-Korbel wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth
07/09/2022
Mae'r pedwar dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Olivia Pratt-Korbel wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth.
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref yn Lerpwl wedi i ddyn redeg i mewn i'w chartref tra'n rhedeg ar ôl dyn arall ar 22 Awst.
Cafodd mam Olivia, Cheryl Korbel, a dyn arall hefyd eu hanafu yn ystod y digwyddiad.
Dros y penwythnos fe gafodd dyn 34 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth a cheisio llofruddio.
Cafodd tri dyn arall, sydd yn 41, 34 a 29 oed, hefyd eu harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.
Mae'r pedwar dyn bellach wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth amodol.
Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau.