Prydau ysgol am ddim yn dechrau i'r disgyblion ieuengaf yng Nghymru
Wrth i dymor newydd o addysg ddechrau, mae plant ieuengaf ysgolion cynradd wedi dechrau cael prydau ysgol am ddim yr wythnos hon.
Yn ôl y llywodraeth, bydd y rhan fwyaf o blant dosbarthiadau derbyn yn cael prydau ysgol am ddim o’r wythnos hon.
Mae ehangu prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd yn ymrwymiad allweddol yn y Cytundeb Cydweithio tair blynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru y byddai eu polisi yn cael ei ymestyn i fwy na 6,000 o blant oedran meithrin.
Bydd disgyblion meithrin sy’n mynychu'r ysgol am o leiaf ddwy sesiwn lawn unrhyw ddiwrnod o’r wythnos yn gymwys i gael pryd ysgol am ddim.
Nod y cynllun yw sicrhau y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion, o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 2, yn cael prydau ysgol am ddim erbyn dechrau tymor yr haf 2023.
Cefnogi teuluoedd 'dan bwysau'
Dywedodd y Prif Weinidog: “Ddylai yr un plentyn fynd heb fwyd. Mae teuluoedd ledled Cymru o dan bwysau aruthrol o achos yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w cefnogi.
“Mae ehangu prydau am ddim i bob ysgol gynradd yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.
“Rydyn ni’n gwybod bod plant iau yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol, a dyna pam mai ein dysgwyr ieuengaf fydd y cyntaf i elwa.”
Bydd £35m o gyllid cyfalaf newydd yn cefnogi’r cynllun. Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwelliannau i gyfleusterau arlwyo ysgolion, gan gynnwys prynu cyfarpar, uwchraddio cyfleusterau ceginau a diweddaru systemau digidol.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru: “Wrth inni wynebu argyfwng costau byw, ‘dyw hi erioed wedi bod yn bwysicach cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd, sicrhau dechrau cyfartal iddyn nhw mewn bywyd a helpu teuluoedd i wneud i’r gyllideb wythnosol fynd ymhellach.
“Dros y tair blynedd nesaf, fe fyddwn ni’n cyflwyno prydau ysgol am ddim ar draws holl grwpiau blwyddyn ein hysgolion cynradd, fel na fydd angen i un plentyn fynd heb fwyd tra byddan nhw yn yr ysgol. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r cynllun gan ddweud y byddai'n cynnwys "teuluoedd miliwnyddion sy'n gallu fforddio bwydo'u plant.
“Nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig yn meddwl y dylai unrhyw blentyn fynd heb fwyd, a dyna pam rydym yn credu mewn targedu ein hadnoddau cyfyngedig a’n prydau ysgol am ddim at y rhai sydd angen cymorth.
“Fodd bynnag, mae cynllun cyffredinol Llafur a Phlaid Cymru yn anghywir oherwydd ei fod yn cynnwys miliynau o deuluoedd sy’n gallu fforddio bwydo eu plant.
“Mae yna argyfwng cost-byw ac mae angen i bob ceiniog o arian cyhoeddus gael ei dargedu at ble mae ei angen fwyaf, rhywbeth y mae agwedd gyffredinol Llafur a Phlaid yn methu â’i wneud.”