Galw am well rheolaeth o gerbydau ymwelwyr ar draeth Morfa Bychan

Mae angen gwneud rhywbeth ar frys i rwystro perchnogion cerbydau motorhomes rhag parcio dros nos yn groes i’r rheolau ar draeth poblogaidd y Graig Ddu ym Morfa Bychan ger Porthmadog.
Dyna farn pobl leol sy’n honni fod perchnogion y cerbydau yn gadael sbwriel ar y safle ac yn tywallt carthion i’r twyni tywod gerllaw.
Mae ceir a cherbydau i fod i adael y traeth erbyn 20:00 ac yna mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn cau’r giât i’r traeth.
Mae perchnogion cerbydau wedi bod yn aros dros nos ar y traeth er y rheolau, ac mae’r broblem i’w gweld yn mynd yn waeth yn ôl Karen Davies sy’n byw’n lleol.
Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae 'na broblem efo sbwriel… mae pobol leol wedi bod yn clirio sbwriel i fyny yn eu lle nhw… roedd na fynydd mawr o sbwriel un noson hefyd. Ma nhw’n gwagio medde nhw y pethe toilet waste yn y twyni tywod ac mae hwnnw i fod yn lle natur mewn ffordd yn tydi….mae hynna’n pollution yn tydi."
Y Cynghorydd Gwilym Jones sy’n cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd a dywedodd bod angen cael is-ddeddf newydd ar draeth Morfa Bychan i swyddogion Cyngor Gwynedd roi dirwy i bobol sy’n torri’r rheolau.
Ychwanegodd: "Does gan y staff morwrol ddim pŵer i roi dirwy i’r bobol ma sy’n parcio… dwi’n meddwl mai’r unig ateb ydy i gael is-ddeddf i roi'r pŵer yma iddyn nhw.
"Dwi wedi ysgrifennu’n barod i bennaeth adran gyfreithiol y Cyngor i ofyn iddo be ydi’r ffordd ymlaen efo hyn. Mae’n rhaid gwneud rhywbeth - tydw i ddim yn gweld ateb arall a dweud y gwir heblaw cael y pŵer yma i’r staff."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae traeth Morfa Bychan ymysg nifer o draethau sy’n cael eu rheoli a’u goruchwylio gan Gyngor Gwynedd. Eto eleni gwelwyd miloedd ar filoedd o bobl yn ymweld a’r arfordir dros gyfnod yr haf, gan roi pwysau aruthrol ar yr isadeiledd lleol ac ar ein swyddogion.
“O safbwynt y traethau yma, ein blaenoriaeth ydi sicrhau amgylchedd ac adnoddau diogel, ac annog ymwelwyr i fwynhau’r arfordir yn ddiogel a chyfrifol gan barchu’r amgylchedd a chymunedau lleol.
“Mae’r Cyngor yn cynnig caniatâd amodol sydd yn rhoi’r hawl i gerbydau fynd ar y safle hyd at 8pm yn unig. Mae cerbydau sydd dal ar y traeth ar ôl yr amser hyn yn cael rhybudd pellach, ac mae’r rhan helaeth o yrwyr yn cydymffurfio a’r gofyn."
Ychwanegodd y llefarydd: “Fodd bynnag, rydym wedi gweld achosion yn fwy diweddar lle mae lleiafrif bychan unai yn gwrthod neu yn methu gadael y safle. O ganlyniad, byddwn yn ystyried trefniadau ychwanegol i’r dyfodol er mwyn delio gydag achosion o’r fath, gan gymryd camau gorfodaeth ffurfiol er mwyn gwarchod amwynderau lleol.
"Ystyriaeth bwysig arall yw’r posibilrwydd o gerbydau yn symud i safleoedd anaddas eraill yn lleol a bydd angen trafodaethau pellach ynghylch hyn gyda’r gymuned.
“Dylid nodi hefyd fod y Cyngor yn datblygu cynlluniau ar gyfer meysydd Aros-Fan penodol ar gyfer cartrefi modur er mwyn ceisio canfod datrysiad ehangach i’r sefyllfa."