Tad Olivia Pratt-Korbel: 'Dim geiriau i ddisgrifio'r boen'
Mae tad Olivia Pratt-Korbel wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "merch oedd yn caru chwerthin ac yn gwneud i bobl chwerthin."
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref wedi i ddyn redeg i mewn drwy'r drws tra'n rhedeg ar ôl dyn arall ar 22 Awst.
Mewn teyrnged, dywedodd tad Olivia, John Francis Pratt, a'i theulu estynedig "nad oes geiriau i ddisgrifio'r boen rydym ni'n ei deimlo ar ôl i Olivia gael ei chymryd gennym ni.
"Mae'n rhaid i'r rhai sy'n gyfrifol gymryd cyfrifoldeb am yr hyn maent wedi ei wneud."
Aeth ymlaen i ddisgrifio Olivia fel merch oedd yn caru chwerthin ac yn caru gwneud i bobl eraill chwerthin.
"Dydyn ni ddim eisiau gweld plentyn arall yn colli ei fywyd mewn amgylchiadau mor ofnadwy a dydyn ni ddim eisiau gweld teulu arall yn dioddef fel yr ydym ni'n dioddef rwan."
Daw hyn wedi i Heddlu Glannau Mersi arestio dyn 34 oed mewn cysylltiad â llofruddiaeth Olivia ddydd Llun, sef y pedwerydd dyn o fewn 24 awr i gael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth y ferch naw oed.
Ychwanegodd y deyrnged ar ran y teulu "nad oes modd anghofio am farwolaeth Olivia a rydym ni eisiau i bobl deimlo'n ddiogel ac i fod yn ddiogel, a fedrith hynny ond ddigwydd os yr ydym ni'n dod at ein gilydd a sicrhau nad oes lle i unrhyw wn ar ein strydoedd neu ein cymunedau."
Llun teulu