S4C yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn Gogglebocs Cymru
06/09/2022
Mae S4C yn chwilio am bobl i gymryd rhan yng nghyfres Gogglebocs Cymru.
Mae'r sianel yn chwilio am bobl o bob cefndir er mwyn adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei chyfanrwydd, gyda siaradwyr Cymraeg, siaradwyr newydd yn ogystal ag unrhyw un sy'n hoffi siarad yn gyffredinol.
Ffansi Cymryd Rhan?
— S4C 🏴 (@S4C) September 5, 2022
Think you've got what it takes?
🔗 https://t.co/eVWDLJtHYn
Bydd y gyfres yn cael ei chynhyrchu gan dau gwmni cynhyrchu o Ogledd Cymru, sef Chwarel a Cwmni Da.
Y bwriad ydy darlledu'r gyfres newydd yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd er mwyn cydfynd gyda dathliadau'r sianel wrth dathlu ei phenblwydd yn 40 oed.